Datrys anghydfodau masnachol

Bwriad ein tîm ymgyfreitha yw cynorthwyo cleientiaid i ddod o hyd i’r datrysiad masnachol gorau i anghydfod.

Caiff dros 95% o anghydfodau eu datrys trwy drafod neu trwy ryw fath o drefniant wedi’i gyfryngu. Fodd bynnag, os nad oes modd cael trefniant boddhaol neu os nad oes ateb arall, gallwn eich sicrhau y byddwn yn ymdrechu’n galed er mwyn llwyddo drosoch chi.

Arweinir ein gwasanaeth ymgyfreitha a datrys anghydfodau gan bartneriaid sydd â phrofiad helaeth o ddelio ag anghydfodau masnachol.

Anghydfodau masnachol/busnes

Cynigiwn ystod eang o brofiad ac rydym yn cynghori ar bob math o anghydfodau masnach a busnes, gan gynnwys y canlynol:

  • Cytundebau (personol a busnes)
  • Esgeulustod proffesiynol gan gynnwys hawliadau yn erbyn cyfreithwyr, cyfrifwyr a phenseiri
  • Banciau a sefydliadau ariannol eraill
  • Anghydfodau ynglyn ag adeiladu, gan gynnwys cyflafareddu a dyfarnu
  • Ymgyfreitha rhyddfraint, gan gynrychioli’r rhyddfreiniwr yn ogystal â’r deiliad rhyddfraint
  • Partneriaethau
  • Cyfranddalwyr
  • Ymddiriedolaethau/profiant
  • Asiantaethau
  • Camwedd ac ecwiti cyffredinol
  • Hawliadau cyfraith gyhoeddus e.e. camwaith a thorri dyletswydd statudol
  • Cyflafareddu a chyfryngu
  • Atebolrwydd cynnyrch
  • Gorfodebion / gwaharddebau
  • Tribiwnlysoedd
  • Materion hawliau dynol
  • Cwynion i ombwdsmyn a chyrff proffesiynol
  • Archwiliadau, cyfweliadau ac erlyniadau gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Safonau Masnach, Adran Weithredol Iechyd a Diogelwch, DEFRA, Adrannau Iechyd yr Amgylchedd a’r Comisiynydd Cludiant

Enghreifftiau o achosion diweddar:

  • Gweithredu mewn anghydfod rhwng cyfranddalwyr
  • Datrys anghydfod cymhleth ynghylch partneriaeth broffesiynol heb orfod mynd i’r llys
  • Gweithredu ar ran deiliad rhyddfraint mewn anghydfod uchel ei werth â’r rhyddfreiniwr, yn ymwneud â difenwi a phroblemau ynghylch honiadau ffug
  • Cynrychioli is-gontractwr yn llwyddiannus parthed anghydfod adeiladu a ddatryswyd trwy ddyfarniad
  • Amddiffyn hawliad yn erbyn dau gyfarwyddwr cwmni am dorri dyletswyddau ymddiriedol, a’i ddatrys yn llwyddiannus

Anghydfodau eiddo

  • Rydym wedi gweithio mewn nifer o achosion o herio adnewyddiad prydles o dan Ddeddf Landlord a Thenant 1954 yn ogystal â delio’n rheolaidd â phob math o anghydfodau rhwng landlordiaid masnachol a thenantiaid megis dadfeiliadau, problemau fforffedu ac anghydfodau ynghylch hysbysiadau.
  • Cynrychioli prynwr a lwyddodd i ddiddymu contract i brynu ty ar ôl darganfod bod y prynwr wedi methu â datgelu gwybodaeth berthnasol.
  • Profiad helaeth o ddelio ag anghydfodau mewn llysoedd, gerbron Barnwr y Gofrestrfa Tir yn ogystal â’r Tribiwnlys Gwerthuso Tiroedd ynglyn â thiroedd, hawl tramwy, cyfamodau cyfyngu a hawliau eraill dros dir neu’n effeithio ar dir.
  • Gweithio dros werthwr i adennill £100k o iawndal yn sgil tân ar ôl i’r landlord ganiatáu gweithwyr a oedd yn trwsio’r to i weithio heb yswiriant, gan ddefnyddio arferion anniogel.

Y tîm