Eiddo Masnachol

Y ddau brif faes gwaith ar gyfer y tîm eiddo masnachol yw gwaith datblygu a thrafodion.

Gwneir gwaith datblygu i gleientiaid sy’n amrywio o adeiladwyr tai cenedlaethol adnabyddus i gwmnïau masnachol llai. Byddwn yn delio â datblygiad o’r archwiliadau cyntaf hyd at y gwerthiant terfynol i ddefnyddwyr, perchnogion neu fuddsoddwyr.

Mae’r gwaith trafodaethol yn cynnwys prynu a gwerthu eiddo buddsoddi, trafodion yn ymwneud â diogelwch megis ail-ariannu neu gyllido caffaeliadau newydd a gwaith sy’n gysylltiedig â landlordiaid a thenantiaid. Mae’n bosibl y byddwn yn gweithio â’n cydweithwyr yn y tîm masnach i ddelio â thrafodion busnes. Fe’ch cynghorwn ar delerau a strwythurau unrhyw werthiant neu bryniad, yn ogystal â cheisio ein gorau i gael canlyniad llwyddiannus.

Rydym yn gyfarwydd â holl elfennau gwaith eiddo; mae’n siwr ein bod bellach wedi gweld y rhan fwyaf o’r problemau mwyaf cymhleth a achosir gan ddatblygiadau neu drafodion eiddo. Gall wythnos waith arferol gynnwys unrhyw beth o hawliau i olau, i warantau adeiladu.

Credwn ein bod wedi treulio digon o amser yn y maes i fedru deall anghenion ein cleientiaid i’r dim. Hyderwn y byddai llawer o’n cleientiaid yn cytuno, gan eu bod gyda ni bellach ers sawl blwyddyn. Rydym yn dibynnu ar ein henw da i ddenu a chadw cleientiaid ac mae ein rhestr yn cynnwys Barratt Homes, Bellway Homes, Broadhall, Ashayes, Ixion, Taylor Wimpey, Stockton Estates, Meadfleet.

Rydym yn ddidwyll a diffuant, ac yn sensitif i ofynion ein cleientiaid. Gwyddwn fod cynnal safonau proffesiynol uchel yn hollbwysig yn ein gwasanaeth.

Y tîm