Corfforaethol/masnachol
Mae gan ein tîm corfforaethol enw da o roi’r gwasanaeth yn gyntaf a chynnig gwerth am arian. O ganlyniad, cynigiwn rywbeth cwbl wahanol i’r cwmnïau cyfreithiol Cymreig mwyaf.
Corfforaethol
Darparwn ystod lawn o wasanaethau corfforaethol, yn cynnwys gwerthu a chaffael preifat, mentrau ar y cyd, ecwiti preifat a chyfalaf mentro.
Rydym yn canolbwyntio ar ddeliau gwerth isel, hyd at £5m.
Enghreifftiau o brofiad diweddar:
- Gweithio ar gaffael holl gyfalaf cyfranddaliadau wedi’i ddyroddi gan gwmni ar Ynys Manaw a chwmni o’r DU, a oedd yn cynnwys cymorth ariannol a pherchennog BVI; nawdd gan Fanc Masnachol. Y cyfanswm o dan sylw: £2.3m.
- Gweithio i gwmni o’r DU i ailstrwythuro’r grwp, ac yna yng ngwerthiant cyfalaf cyfranddaliadau wedi’i ddyroddi i gwmni rhyngwladol yn Ffrainc. Y cyfanswm o dan sylw: £1.2m.
- Gweithio i gwmni cynhyrchu amgylcheddol arbenigol dechreuol ynghylch buddsoddiad cyfalaf menter o £1m.
Masnachol
Rydym yn darparu atebion cost effeithiol i fusnesau ar gyfer ystod eang o faterion busnes, megis:
- Drafftio a chynghori ar delerau ac amodau, cytundebau cyflenwi, cytundebau dosbarthu a chontractau masnachol.
- Drafftio a chynghori ar gytundebau cydweithio, strategaethau partner a mentrau ar y cyd.
- Cytundebau cyfranddalwyr
- Cytundebau ag opsiwn cyfranddaliadau
- E-fasnach
- Eiddo deallusol a thrwyddedu
Enghreifftiau o brofiad diweddar:
- Drafftio i gwmni a chynghori ar nifer o gytundebau masnachol er mwyn darparu gwybodaeth gorfforaethol yn ddiogel.
- Drafftio a chynghori ynglyn â chytundeb cynhyrchu rhyngwladol a chytundeb darparu gwybodaeth.
- Gweithio i nifer o gleientiaid i greu cwmnïau menter ar y cyd, ag un ohonynt wedi’i gofrestru yng Nghanada.
Partneriaeth
Rydym yn un o’r ychydig gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru sy’n meddu ar yr arbenigedd a’r profiad angenrheidiol i ddelio â’r holl faterion syml a chynhennus a ddaw i ran partneriaid a phartneriaethau.
Enghreifftiau o brofiad diweddar:
- Cynghori nifer o bartneriaid unigol mewn cwmnïau cyfreithiol ynglyn ag ymadael â phartneriaeth.
- Rhoi cyngor ar greu Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (LLP) a chytundebau aelodaeth.
- Gweithio i gwmni cyfreithiol er mwyn ei newid o bartneriaeth i LLP.
