Troseddau a rheoleiddio corfforaethol

Bydd unrhywun sy’n ymwneud â busnes am gyfnod hir - hyd yn oed y rhai mwyaf gofalus yn ein plith - yn siwr o orfod delio ag asiantaeth orfodi rheoliadau rywbryd neu’i gilydd.

Rydym yn darparu cyngor, cefnogaeth, ac os oes rhaid, cynrychiolaeth i gleientiaid pan ddigwydd hyn. Gall ein gwaith gynnwys:

  • darparu cyngor ar ôl ymweliad gan archwiliwr
  • mynd gyda chleientiaid i gyfweliadau ffurfiol o dan rybudd
  • cysylltu â’r corff gorfodi i’w ddarbwyllo i beidio â chyflwyno gweithdrefnau gorfodi
  • cynrychioli cleientiaid pan gyflwynir achosion troseddol yn eu herbyn

Gall llawer o gyrff heblaw’r heddlu weithredu’r gyfraith. Mae gennym brofiad o ddelio â’r holl brif gyrff, gan gynnwys:

  • Adran Weithredol Iechyd a Diogelwch
  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Safonau Masnach
  • Adrannau Iechyd yr Amgylchedd
  • Y Comisiynydd Cludiant
  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
  • DEFRA
  • Swyddfa Twyll Difrifol

Mae gennym brofiad hefyd o gynghori cleientiaid i baratoi ar gyfer “cyrch gyda’r wawr” gan y Comisiwn Cystadlu ac rydym wedi paratoi protocol argyfwng i’w ddefnyddio mewn amgylchiadau o’r fath.

Cysylltwch â’r partneriaid Kempton Rees neu Stephen Thompson am ragor o wybodaeth.