Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol

Rydym yn cynrychioli nifer o gyflogwyr pwysig yn Ne Cymru a thu hwnt, gan gynnwys:

  • Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
  • Cyrus Engineering Limited
  • Dekor PLC
  • Guarding UK Limited
  • Frontiers Capital
  • Pervasic Limited
  • Netstore PLC
  • Serious Food Group
  • The Synergy Group

Yn anochel, mae delio â gwrthdaro yn y gwaith yn rhan fawr o’r gwaith yr ydym yn ei wneud i’n cleientiaid sy’n gyflogwyr, ond rydym yn gwneud llawer mwy na hynny. Mae busnesau llwyddiannus yn canolbwyntio nid yn unig ar osgoi hawliadau tribiwnlys cyflogaeth, ond hefyd ar sefydlu perthynas â gweithwyr. Hynny yw, creu amgylchedd gwaith lle caiff gweithwyr eu gwerthfawrogi a’u hannog i gyflawni eu potensial a chyfrannu’n llawn i sicrhau llwyddiant hirhoedlog i’r busnes. Rydym yn cynorthwyo’n cleientiaid i wneud hyn trwy eu cynghori ar ystod o fesurau gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau i atal camwahaniaethu, ynghyd ag amodau gwaith a thelerau a buddion hyblyg i weithwyr.

Yn ogystal, mae gennym brofiad arbennig o gynrychioli uwch brif weithredwyr – a sawl un o’r Ddinas – mewn materion yn ymwneud â chychwyn a gadael gwaith, negydu contractau, telerau tâl gan gynnwys dewisiadau cyfranddaliadau, cynghori ynglyn â dyletswyddau cyfarwyddwyr a negydu pecynnau datgysylltu sylweddol gan gynnwys hawliau bonws. Mae ein tîm cyflogaeth yn aml yn rhoi cyngor trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda Bethan Darwin, Fflur Jones a Rhys Parsons yn siarad Cymraeg yn rhugl.

Mae’r tîm cyflogaeth hefyd yn darparu seminarau hyfforddi rheolaidd i gleientiaid a swyddogion adnoddau dynol ar gyfraith, polisïau a gweithdrefnau cyflogaeth ac yn cynhyrchu cylchlythyr cyflogaeth yn rheolaidd. Os hoffech dderbyn y cylchlythyr cyflogaeth, cysylltwch â Denice ar 029 2082 9129, gan nodi a hoffech gopi Saesneg neu Gymraeg, ynteu’r ddwy iaith, a chopi caled neu e-bost.

Cyfraith cyflogaeth

Mae ein tîm cyflogaeth yn delio â holl feysydd cyfraith cyflogaeth, o ddechrau’r berthynas gyflogaeth hyd at gynnal achosion mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth. Rydym yn gweithio yn y meysydd canlynol:

  • Contractau
  • Gwarchod Data
  • Camwahaniaethu
  • Diswyddo
  • Tribiwnlysoedd Cyflogaeth
  • Seibiant Mamolaeth/Tadolaeth
  • Polisïau a Gweithdrefnau
  • Diswyddo
  • Ad-drefniadau
  • Cyfamodau Cyfyngu
  • Uwch Brif Weithredwyr
  • Trosglwyddo Ymgymeriadau (TUPE)
  • Amser gwaith
  • Gweithio hyblyg
  • Gwaith rhan-amser
  • Y Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol
  • Ymgynghoriaeth Adnoddau Dynol

Ymgynghoriaeth Adnoddau Dynol

  • Gweithredu polisïau a gweithdrefnau
  • Cymorth recriwtio a dethol
  • Paratoi disgrifiadau swydd
  • Cynnal gwrandawiadau disgyblu a chwyno
  • Datblygu systemau rheoli perfformiad
  • Tâl a graddio a gwerthuso swyddi
  • Ymgynghoriadau diswyddo ac ymgynghori ar drosglwyddo ymgymeriadau (TUPE)
  • Monitro a rheoli absenoldeb salwch
  • Asesiadau risg
  • Datblygu strategaeth Adnoddau Dynol
  • Gweinyddu ac anwytho staff newydd
  • Hyfforddiant ar gyfleoedd cyfartal, amrywiaeth a datrys anghydfod

Y Tîm