Rhyddfraint
Mae ein tîm rhyddfraint yn darparu cyngor cyfreithiol arbenigol ar bob maes o gyfraith rhyddfraint. Rydym hefyd yn aelod cyswllt proffesiynol o Gymdeithas Ryddfraint Prydain.
I ryddfreinwyr newydd rydym yn darparu gwasanaeth cyfreithiol llawn gan gynnwys paratoi’r holl ddogfennau angenrheidiol i sefydlu rhyddfraint newydd gan gynnwys cytundebau prif drwydded, cytundebau rhyddfraint, cytundebau trwyddedu meddalwedd ynghyd â chyfarwyddiaduron.
Ar gyfer darpar ryddfreinwyr, cynigiwn wasanaeth pris sefydlog i gynghori ar gytundebau rhyddfraint drafft.
Yn ogystal, cynghorwn ryddfreinwyr a deiliaid rhyddfraint ar faterion beunyddiol cynhennus a syml, megis eiddo masnachol, cyflogaeth, eiddo deallusol ac ymgyfreitha.
Enghreifftiau o brofiad diweddar:
- Cynghori ar faterion cyfreithiol ynghylch rhyddfreinio clwb “ar ôl ysgol” gan gynnwys gwerthu nifer o allfeydd sefydledig wedi’u rhyddfreinio.
- Rhoi cymorth cyffredinol i ryddfreinio ysgol yrru.
- Cynghori sefydliad sy’n dal rhyddfraint adnabyddus ynglyn â chamwedd sylfaenol gan y rhyddfreiniwr yn cynnwys materion “ymeithrio o grant”.
- Amddiffyn deiliad rhyddfraint rhag honiadau o ddifenwi a honiadau ffug gan y rhyddfreiniwr.
Cysylltwch â Stephen Thompson am ragor o wybodaeth.
