Methdaliad
Mae gan ein tîm methdaliad brofiad helaeth o gynghori ymarferwyr methdaliad, credydwyr, dyledwyr a chyfarwyddwyr mewn perthynas â materion methdaliad corfforaethol a phersonol. Mae’r partneriaid Bethan Darwin, Stephen Thompson a Kempton Rees oll yn meddu ar brofiad helaeth ym maes methdaliad. Mae Kempton yn aelod o bwyllgor rhanbarthol R3, cymdeithas methdaliad proffesiynol, ac yn ôl Chambers a’r Legal 500, mae’n arweinydd yn y maes hwn.
Methdaliad corfforaethol
Rydym yn cynghori ac yn cynrychioli ymarferwyr methdaliad ar holl agweddau methdaliad corfforaethol, gan gynnwys:
- gweinyddwyr
- derbynyddiad
- datodiadau
- CVA’s
Dyma rai enghreifftiau o faterion y cynghorwn yn eu cylch:
- dirwyn deisebau a gweithdrefnau i ben
- apwyntiadau gyda gweinyddwyr a derbynwyr
- trafodaethau blaenorol
- hawliadau i gadw teitl
- defnyddio pwerau ymchwilio statudol
- casglu dyledion llyfr
- hawliadau credydwyr
- materion cyflogaeth a TUPE
- ailddefnyddio enwau cwmnïau
- sylweddoli asedau a gwerthiant eiddo
Rydym wedi gweithio dros ac yn erbyn cyfarwyddwyr cwmnïau methdaliadol ynghylch honiadau o dorri dyletswyddau ymddiriedol a honiadau masnachu anghywir/twyllodrus, yn ogystal â threfniadau gwahardd cyfarwyddwyr.
Rydym hefyd yn gweithredu ar ran partïon eraill cysylltiedig megis credydwyr a dyledwyr cwmnïau methdaliadol.
Methdaliad personol
Rydym yn cynghori dyledwyr, credydwyr ac ymarferwyr methdaliad yn rheolaidd ynglyn â phob math o faterion yn ymwneud â methdaliad, gan gynnwys:
- deisebau a gweithdrefnau methdaliad
- hawliadau ar gyfer y cartref priodasol
- honiadau "ecwiti difeiad"
- trafodaethau blaenorol
- dirymiad
- asedau a ôl-gaffaelwyd
- gwerthu eiddo
- gorchmynion/ymgymeriadau cyfyngu methdaliad
- gorchmynion/cytundebau talu incwm
