Chwaraeon
Nid un ddisgyblaeth gyfreithiol yn unig yw cyfraith chwaraeon; yn hytrach, mae’n cwmpasu nifer o feysydd cyfreithiol. O ganlyniad, mae gennym dîm chwaraeon amlddisgyblaeth sy’n darparu cyngor ar nifer o faterion cyfreithiol, megis masnach, cyflogaeth a datrys anghydfodau.
Rydym hefyd yn un o’r ychydig gwmnïau cyfreithiol sydd yn cynnig gwasanaeth rheoli i sêr chwaraeon proffesiynol, trwy’r busnes rheoli chwaraeon, 8 Total Management Limited.
Cyfreithiol
Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau i glybiau chwaraeon, sefydliadau ac unigolion, yn y meysydd canlynol:
- Contractau chwarae
- Contractau masnachol, gyda noddwyr a’r cyfryngau
- Materion yn ymwneud â hawliau delwedd ac eiddo deallusol
- Materion disgyblu
- Materion dopio
- Anghydfodau chwaraeon
Rydym hefyd yn gynghorwyr cyfreithiol i’r Celtic Crusaders, yr unig dîm rygbi’r gynghrair proffesiynol yng Nghymru, sydd newydd ennill statws Uwchgynghrair. Rydym hefyd yn noddi’r Crusaders Celtaidd .
Enghreifftiau o brofiad diweddar:
- Cynrychioli Colin Jackson er mwyn trwyddedu ei hawliau delwedd i gynhyrchwr bwyd i ddatblygu cynnyrch wedi’i frandio
- Cynrychioli Alun Carter, cyn hyfforddwr dadansoddol Cymru ar ei ymadawiad o Undeb Rygbi Cymru a’i gontractau masnachol wedi hynny gyda’r cyfryngau cenedlaethol.
Rheoli
Cynigiwn gyngor rheoli ar faterion cytundebol a masnachol i unigolion trwy ein cwmni rheoli chwaraeon, 8 Total Management Cyfyngedig.
Enghreifftiau o brofiad diweddar:
- Gweithio i’r chwaraewyr rygbi Matthew Watkins, Liam Davies, Rhys Priestland a Peter Sidoli i gael cytundebau â Chaerloyw, Brive, y Sgarlets a Calvisano yn eu trefn.
- Gweithio i’r athletwr John McFall er mwyn negydu cytundeb noddi gydag Adidas.
