Profiad cwmni mawr
Agwedd cwmni bach
- Cyfreithwyr Darwin Gray
- Helmont House, Churchill Way
- Caerdydd, CF10 2HE
- T: +44 029 2082 9100
- Ff: +44 029 2082 9101
Amdanyn

Cwmni cyfraith masnach yw Darwin Gray, sy’n darparu amrywiaeth lawn o wasanaethau cyfreithiol ar gyfer busnesau a phobl fusnes o’n swyddfeydd yng Nghaerdydd.
Daw ein cleientiaid o bob rhan o Gymru a gweddill y DU, ac maent yn amrywio o entrepreneuriaid a gweithredwyr unigol i fusnesau bach a chanolig hyd at CCCau mawr.
Dechreuon ni’r practis yn 2002 gyda dau bartner yn unig, ac er ein bod yn gwmni cymharol ifanc, rydym eisoes wedi tyfu i deg partner a chyfanswm gweithwyr o dros 30. Mae hyn yn golygu ein bod yn ddigon mawr i ddelio â materion pwysig a chymhleth, ond eto’n ddigon bach i gynnig gwasanaeth hyblyg a phersonol sy’n ymateb i ofynion ein holl gleientiaid.
Yn Darwin Gray, cynigiwn y canlynol:
- tîm wedi’i lunio’n ofalus o gyfreithwyr profiadol iawn a staff cefnogi sydd mor brofiadol â staff cwmni mawr, ond â hyblygrwydd a strwythur personol cwmni llai
- cwmni sy’n parhau i godi yn rhengoedd cyfraith Cymru, â phedwar o’n partneriaid wedi’u cydnabod yn arweinwyr yn eu maes
- agwedd frwdfrydig, egniol a chyfeillgar
- gwasanaeth dwyieithog – â chwech o’n un ar bymtheg o gyfreithwyr yn siarad Cymraeg yn rhugl, gallwn gynnig y rhan fwyaf o’n gwasanaethau yn y ddwy iaith.
Mae llawer o’n cleientiaid wedi bod gyda ni o’r dechrau. Maent wedi argymell ein gwasanaethau i fusnesau eraill, a dyna, i raddau helaeth, sydd i’w gyfrif am ein llwyddiant a’r ffaith ein bod yn cynyddu ein sylfaen o gleientiaid bob blwyddyn.
Os ydych eisoes yn defnyddio’n gwasanaethau, diolch – rydym yn gwerthfawrogi hynny’n fawr. Os ydych yn chwilio am gyngor cyfreithiol, ac os hoffech droi at gwmni cyfreithiol a fydd yn gweithio gyda chi i ddatrys eich problemau cyfreithiol yn gyflym ac yn gost-effeithiol,. cysylltwch â ni.
