Pobl
Alison Ivin

- DDI: 029 2082 9134
- aivin@darwingray.com
- Cymhwyso
- 1995
- Addysg
Ysgol Ramadeg Pont-y-pŵl
University of West of England (Cwrs Ymarfer Cyfreithiol 1995)
Ym 1988 ymunodd ag Awdurdod Tir Cymru, a daeth yn Ddirprwy Gynghorydd Cyfreithiol iddo ymhen amser. Yn yr wyth mlynedd wedi hynny, cafodd Alison brofiad arbennig o waith datblygu, cynllunio, prynu gorfodol a phrosiectau menter ar y cyd yn ogystal â chynghori ar lefel y Bwrdd.
Ar ôl cymhwyso ym 1996, ymunodd Alison â chwmni preifat Palser Grossman. Ymhen dwy flynedd, daeth yn Bartner yno ac yn bennaeth eiddo. Parhaodd Alison i ganolbwyntio ar brosiectau datblygu a strategol, gan ddefnyddio ei phrofiad yn y sector cyhoeddus mewn nifer o brosiectau adfywio o bwys.
Yn 2002, fe’i gwahoddwyd i ymuno â Hugh James fel partner, i ddelio ag amryw o gynlluniau datblygu strategol.
Yn 2006 ymunodd Alison â Darwin Gray fel partner ac mae’n parhau i weithio i nifer o adeiladwyr y gweithiodd â hwy yn gyntaf yn y 1980au. Mae Alison yn abenigwraig eiddo adnabyddus ac fe’i cydnabyddir yn arweinydd yn ei maes.
Defnyddia Alison ei phrofiad helaeth mewn eiddo diriaethol i gynghori cleientiaid yn y sector cyhoeddus a phreifat ac mae’n parhau i ymddiddori mewn materion sy’n gysylltiedig â datblygu.
Enghreifftiau o waith a gyflawnwyd
Eiddo Masnachol
- Datblygiadau cyhoeddus/preifat ar gyfer cartrefi newydd ac isadeiledd cymdeithasol gan gynnwys cytundebau cynllunio aml-barti, y priffyrdd a threfniadau tirfeddianwyr/consortiwm;
- Pryniadau amodol; cyfnewid tir a threfniadau rhaniadau a gwerthiant cyfnodol lleiniau wedi’u gwasanaethu gyda rhwymedigaethau datblygu parhaus; cytundebau gorswm; cytundebau prynu cyfnodol a thaliadau;
- Cytundebau opsiynau a threfniadau tirfeddianwyr ar gyfer rhannu neu hafalu gwerth tir ar gyfer meddianwyr niferus;
- Adfywio dinesig gan gynnwys prynu a datblygu safleoedd wedi’u llygru ac ailwampio prosiectau glan y dŵr a chanol trefi â’r materion cynllunio cysylltiedig, contractau adfer safleoedd, cytundebau isadeiledd, gwerthu cyfnodol, gwarantau adfer a threfniadau consortiwm cysylltiedig â hynny;
- Gosod safle a datblygiadau preswyl neu at ddefnydd cymysg i gael y gwerth rifersiwn gorau;
- Trefniadau rheoli cymhleth ar gyfer fflatiau preswyl a mannau gwyrdd; taliadau rhent a chyfamodau personol ar gyfer talu costau cynnal a chadw;
- Materion cynllunio unochrog gan gynnwys rhwymedigaethau i gefnogi ceisiadau neu apeliadau cynllunio; Tai fforddiadwy;
- Pryniant gorfodol a dileu teitl er mwyn cyflwyno tir i’w ddatblygu; trefniadau gyda’r sector cyhoeddus i hwyluso cydosod tir gan ddefnyddio pryniant gorfodol;
- Rheoli a choladu gwybodaeth am deitlau a gwarantau eiddo wrth drosglwyddo stoc dai awdurdodau lleol, ar gyfer cyfanswm o oddeutu 14,000 o gartrefi.
- Ar hyn o bryd yn gyfarwyddwr Butetown Artists
- Ymddiriedolwr Bobath (Cymru) – elusen i blant â pharlys yr ymennydd
Cadw’n brysur gyda theulu ifanc, a phan fydd amser, ymhél â chelf, cerameg a chynllunio.