Pobl
Bethan Darwin

- DDI: 029 20829120
- bdarwin@darwingray.com
- Cymhwyso
- 1990
- Addysg
- Ysgol Gyfun Rhydfelen
King's College London
Newcastle Polytechnic
Ym mis Mawrth 2002 sefydlodd Bethan gwmni Darwin Gray gyda Donald Gray.
Mae Bethan yn arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth ac mae’n un o’r prif ymarferwyr cyfraith cyflogaeth yng Nghaerdydd. Rhoddir clod iddi yn y Legal 500 a’r Siambrau, ac mae’n cynghori cyflogwyr mawr, uwch weithredwyr a chyfarwyddwyr ynglŷn â gadael cyflogaeth, gan gynnwys negydu contractau, llythyrau penodi cyfarwyddwyr anweithredol, telerau tâl gan gynnwys opsiynau cyfranddaliadau, cynghori ar ddyletswyddau cyfarwyddwyr a negydu pecynnau datgysylltu sylweddol gan gynnwys hawliau bonws. Er ei bod bellach yn canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar waith yn ymwneud â chyflogaeth, mae Bethan yn parhau i gynghori ar ymgyfreitha cyflogaeth sy’n cynnwys dyletswyddau cyfarwyddwyr, cyfamodion cyfyngu, cyfrinachedd yn ogystal â gweithdrefnau diarddel cyfarwyddwyr.
Mae hi’n dadlau dros ei hachosion ei hun yn y Tribiwnlys Cyflogaeth ac yn darlithio mewn seminarau hyfforddi gan gynnwys Cwrs Sgiliau Tribiwnlys Cyflogaeth a Chyfraith Camwahaniaethu Prifysgol Caerdydd. Er ei bod yn gweithio yng Nghaerdydd, mae Bethan yn cynrychioli nifer o gleientiaid o Lundain, a daw llawer o’r gwaith hwn trwy argymhellion gan gyfarwyddwyr unigol. Mae hi wedi gweithio i uwch weithwyr a oedd yn ymadael â chyflogwyr yn y Ddinas, megis BNP, Exane Limited, Lehman Brothers, UBS Warburg a Société Générale.
Mae Bethan hefyd yn arbenigo mewn ymgyfreitha masnachol. Mae hi’n cynghori ymarferwyr methdaliad, cwmnïau ac unigolion ar holl agweddau methdaliad gan gynnwys cadw teitl, blaenoriaethau a thanbrisio a masnachu anghywir a thwyllodrus. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio i fanciau a chwmnïau prydlesi ariannol, ac mae hi hefyd yn cynghori cyfarwyddwyr ar weithdrefnau diarddel.
Mae Bethan yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn aml yn rhoi cyngor trwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig i gwmnïau teledu annibynnol. Mae hi hefyd yn aelod o bwyllgor personél Menter Iaith Rhondda Cynon Taf.
Yn olaf, Bethan yw trefnydd Superwoman, sef digwyddiad rhwydweithio blynyddol i fenywod yng Nghaerdydd. Fe’i cynhelir ym mis Hydref ac mae’n darparu cyfle i fenywod busnes glywed sgyrsiau gan siaradwyr o bwys, ynghyd â rhwydweithio a rhannu gwybodaeth am fusnes wrth godi llawer o arian at achosion da.
Enghreifftiau o waith a gyflawnwyd
Cyflogaeth ac AD
- Cynrychioli uwch weithwyr parthed telerau ymadael â banciau buddsoddi’r Ddinas
- Amddiffyn cwmni peirianwyr sifil yn erbyn hawliadau a gyflwynwyd gan weithwyr hunangyflogedig mewn Tribiwnlys Cyflogaeth
- Gweithio i ccc mewn hawliad torymrwymiad tenantiaeth yn erbyn cyn-weithiwr, gan gynnwys gwaharddeb i atal rhagor o dorymrwymiad
- Gweithio i gyfarwyddwr mewn hawliad yn erbyn cyn-weithiwr am dorri contract cyflogaeth pum mlynedd, gan gynnwys hawliadau yn yr Uchel Lys a’r Tribiwnlys Cyflogaeth
- Cynghori mewn achos o ddiswyddo mawr, gan gynnwys ymgynghori gyda’r undeb llafur a chynrychiolwyr etholedig y gweithwyr
- Gweithio ar drosglwyddiad TUPE ar raddfa fawr a diswyddo yn ei sgil, gan gynnwys ymgynghori gyda chynrychiolwyr etholedig y gweithwyr
- Hawliadau esgeulustod proffesiynol yn erbyn cyfreithwyr
- Amddiffyn hawliadau esgeulustod proffesiynol yn erbyn cyfrifwyr
- Hawliadau yn erbyn cynghorau lleol mewn achos camwedd am ddifrod llifogydd
- Gweithio i weinyddwr safle tirlenwi mewn nifer o faterion gan gynnwys hawliad gan Asiantaeth yr Amgylchedd a hawliad yn erbyn y cyngor lleol am iawndal
- Hawliad etifeddiaeth aml-awdurdod ar ystâd werth £2m
- Amddiffyn cyfarwyddwr yn llwyddiannus yn erbyn gweithdrefnau diarddel ac ennill costau indemniad yn y treial.
- Cymdeithas y Cyfreithwyr Cyflogaeth
Byddai hynny’n braf! Cyhoeddir nofel gyntaf Bethan, Back Home, gan wasg Honno ym mis Mawrth 2009