Pobl
Damian Phillips

- DDI: 029 2082 9126
- dphillips@darwingray.com
- Cymhwyso
- 1997
Arbenigodd Damian mewn cyfreitha masnachol am bedair mlynedd gyntaf ei yrfa cyn symud i ymdrin â cyfraith cyflogaeth. Yn 2002 fe ymunodd â adran cyfraith cyflogaeth yn swyddfa Lyons Davidson ym Mryste, cyn symud ymlaen i Hugh James ble treuliodd 6 mlynedd, gan gael ei ddyrchafu yn uwch gydymaith yno.
Ymunodd Damian â Darwin Gray fel partner ym mis Mawrth 2009.
Mae’n cynghori cyflogwyr ac uwch weithredwyr ar faterion cyfraith cyflogaeth cynhennus a di-gynnen ac mae ganddo brofiad eang ym mhob agwedd, o ddiswyddiad annheg a chamwahaniaethu i gysylltiadau diwydiannol a throsglwyddo ymgymeriadau. Mae Damien hefyd yn aml yn drafftio ac yn cynghori ar bolisiau cwmni, trefniadau a chontractau cyflogai a chytundebau gwasanaeth.
Yn gydymaith profiadol, mae Damien yn cynrychioli cleientiaid mewn tribiwnlysoedd ac mewn gwrandawiadau rheoleiddio, ac yn cyflwyno cyrsiau hyfforddi ar amryw o destunau cyfraith cyflogaeth. Mae wedi gwneud nifer o ymddangosiadau ar drafodaethau cyfreithiol Radio Wales ac yn gyfranwr cyson i erthyglau a bwletinau cyfraith cyflogaeth.
Enghreifftiau o waith a gyflawnwyd
(i) Amddiffyn adeiladwr tai blaenllaw ar hawliadau cyflog gwyliau a gyflwynwyd gan gontractwyr hunan-gyflogedig
(ii) Cynghori darparwr trafnidiaeth cyhoeddus mawr ar weithredu diwydiannol gan gyflogeion
(iii) Cynghori ar drefniadau diswyddo, gan gynnwys anghenion ymgynghori ar y cyd
(iv) Cynghori undeb llafur ar gyrraedd cydnabyddiaeth statudol
(v) Cynghori busnesau ar faterion TUPE sy’n codi yn sgil caffaeliad/gwerthiant busness neu newid darparwr gwasanaeth
(vi) Eiriolaeth mewn Tribiwnlys Cyflogaeth: hawliadau camwahaniaethu, diswyddiad annheg a chamddiswyddiad, dadleniadau dan amddiffyniad, materion amser gwaith a didyniad annheg o gyflogau
(vii) Cynrychioli Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru fel swyddog cyflwyno mewn achosion ymddygiad proffesiynol ac achosion addasrwydd
Aelodaeth
Cymdeithas Cyfreithwyr Cyflogaeth (etholwyd yn Gynrychiolydd De Cymru 2008/2009)
Diddordebau
Gemau pêl, coginio, sgïo a theulu