Pobl
Donald Gray

- DDI: 029 2082 9115
- dgray@darwingray.com
- Cymhwyso
- 1985
- Addysg
Elizabeth College Guernsey
Prifysgol Birmingham
College of Law, Guildford
Symudodd Donald i Dde Cymru ym mis Awst 1990 a daeth yn gyfreithiwr cynorthwyol yn Edward Lewis & Co. Ar ôl symud, manteisiodd ar y cyfle i ganolbwyntio ar feysydd digynnen ei waith, ond o ganlyniad i’r dirwasgiad a’r mathau gwahanol o waith a oedd ar gael yn Ne Cymru, bu’n rhaid iddo ganolbwyntio ar fathau newydd o waith. Ymgymerodd â chyfran fawr o’r gwaith methdaliad yn Edward Lewis (yn enwedig ym maes tir ac eiddo deallusol) yn ogystal â bod yn rhan o brosiect mawr ar gyfer cloddio glo brig.
Gadawodd Edward Lewis & Co yn sgîl newidiadau ym mhartneriaeth y cwmni ac ymunodd â chwmni a elwid bryd hynny’n Howard Palser & Partners, gan ddod yn bartner gyda Palser Grossman ym 1995.
Ym mis Mawrth 2002, ac yntau wedi ennill profiad gwerthfawr, sefydlodd Donald gwmni Darwin Gray gyda Bethan Darwin.
Mae Donald yn ffigwr adnabyddus ym maes cyfraith eiddo masnachol. Canolbwynt ei waith yw adeiladu eiddo masnachol a gwaith amgylcheddol. Ar wahân i hyn, mae Donald wedi delio â meysydd mwy arbenigol yn gysylltiedig ag eiddo real: mae ganddo waith o hyd ym maes cyfraith tir arbenigol mwyngloddio a mwynau, tir comin a maenorau. Y mae hefyd yn ymgymryd â gwaith amgylcheddol gan gynnwys materion cysylltiedig â gwenwyno dŵr (rhai’n gysylltiedig â mwyngloddio a gwaith adeiladu) yn ogystal â materion yn ymwneud ag erydiad a llygru.
Enghreifftiau o waith a gyflawnwyd
Eiddo Masnachol
Gwaith gwerthu a datblygu:
- Cydosod safle ar gyfer datblygwyr eiddo masnachol a chartrefi
- Gwerthu a phrynu eiddo masnachol ynghyd â phortffolios eiddo
- Trefnu cytundebau rhagosod, prydlesi adeiladau, prydlesi swyddfeydd ac adeiladau diwydiannol
Ymhlith ei brosiectau nodweddiadol mae datblygiad swyddfa 40,000 troedfedd sgwâr ar gyfer Broadhall Wharfedale yn Abertawe a datblygiad y swyddfa yn Newcastle under Lyme. Roedd Donald hefyd yn bartner arweiniol mewn perthynas â gwerthiant safle datblygiad 14 acr yn Ne Cymru a gafaelwyd yn y pen draw gan Argos. Mae ei brosiectau cyfredol yn cynnwys caffael safle datblygiad pwysig yng nghanol dinas Casnewydd.
Adeiladu
Datblygiad:
Gwarantau, contractau adeiladu a materion diogelwch yn ymwneud ag adeiladu datblygiadau diwydiannol a swyddfeydd.
Anghydfodau:
Dyfarnu, cyflafareddu ac achosion yn yr Uchel Lys parthed cyfrifon terfynol, esgeulustod a materion yn ymwneud â thorri contract.
Yr Amgylchedd:
Mae’r gwaith yn ymwneud yn bennaf â materion cynhennus, sy’n cynnwys nifer o achosion llygru dŵr (rhai’n ymwneud â gwaith mwyngloddio ac adeiladu) yn ogystal ag erydu ac achosion yn ymwneud â llygru.
Mwyngloddiau a Mwynau, Tir Comin a Maenorau
Mwyngloddiau a mwynau:
Mwyngloddio brig a dwfn; dyfarnu trwyddedau gan yr Awdurdod Glo a thirfeddianwyr; archwilio trwyddedau; caffael hawliau gorfodol; materion yn ymwneud â’r amgylchedd a chynhyrchu.
Tir comin a maenorau: Caffael maenorau; cofrestru teitlau ac anghydfodau; dyfarnu hawliau dros dir comin a mewn cysylltiad â defnyddio hawliau maenorol.
Diddordebau
Yn ei amser hamdden, mae Donald yn mwynhau seiclo, nofio a ffotograffiaeth.