Pobl
Fflur Jones

- DDI: 029 2082 9117
- fjones@darwingray.com
- Cymhwyso
- 2003
- Addysg
Ysgol Y Berwyn, Y Bala
Prifysgol Caergrawnt
University College, Llundain
The College of Law, Llundain
Ymunodd Fflur â Darwin Gray ar ôl cymhwyso yn Eversheds yn 2003. Yn 2008 fe’i gwnaethpwyd yn Gydymaith, ac ar 1 Ebrill 2010 fe’i gwnaethpwyd yn Bartner yn y Cwmni.
Mae Fflur yn arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth ac yn gweithio dros fusnesau, mudiadau sector cyhoeddus a chleientiaid preifat yn holl feysydd cyfraith cyflogaeth gan gynnwys negydu pecynnau cychwyn a gadael i gwmniau, gweithredwyr a chyfarwyddwyr, cynghori busnesau ar ddiswyddiadau ar raddfa fawr, diswyddo annheg a holl agweddau cyfraith anffafriaeth. Mae hi wedi cynghori nifer o uwch-weithredwyr ar eu hawliadau cyfraith cyflogaeth a’u pecynnau gadael o gyflogwyr o’r Ddinas a’r cyfryngau megis MTV Networks, Weil Gotshal & Manges, The Taylor Maxwell Group, Macquarie Group, BNP Paribas, a Fitch Ratings Ltd.
Mae Fflur hefyd yn darparu cyngor a hyfforddiant ar ystod eang o waith digynnen megis cynghori ar gyfleoedd cyfartal, trosglwyddiadau TUPE, effaith y Rheoliadau Amser Gwaith, contractau a llawlyfrau cyflogaeth, cytundebau gwasanaeth cyfarwyddwyr a chytundebau opsiwn cyfranddaliad. Mae hi hefyd yn darparu cyngor ar agweddau cyfraith cyflogaeth trafodiadau corfforaethol a wnaethpwyd gan Darwin Gray.
Mae Fflur yn siarad Cymraeg yn rhugl, ac wedi cynnal nifer o seminarau hyfforddi ar gyfraith cyflogaeth a busnes yn Saesneg ac yn Gymraeg. Mae hi hefyd yn eirioli mewn Tribiwnlysoedd. Mae hi hefyd yn darlithio ar gwrs Sgiliau Tribiwnlys Cyflogaeth a Chyfraith Anffafriaeth Prifysgol Bangor.
Yn ystod ei gyrfa yn Darwin Gray, mae Fflur wedi datblygu arbenigedd mewn gwaith anffafriaeth, ar ôl adeiladu ar y profiadau a chafodd ar secondiad gyda Russel Jones and Walker lle bu’n gweithio gyda Barry Clarke ac yn cynrychioli swyddogion heddlu mewn amryw o hawliadau ar sail hîl, rhyw, anabledd a thueddfryd rhywiol yn erbyn gwasanaeth yr heddlu. Mae hi nawr yn aml yn cynrychioli unigolion a chwmniau mewn achosion anffafriaeth cymhleth, gan gynnwys nifer o achosion anffafriaeth yng nghlwm â beichiogrwydd a mamolaeth.
Yn 2007, fe enillodd Fflur wobr Cyfreithiwr Ifanc Pro Bono Cymdeithas y Cyfreithwyr ar gyfer cwmniau bach am ei gwaith gyda’r elusen Gymreig, Cyfiawnder i Geiswyr Lloches. Mae hi hefyd yn rhoi cyngor cyfreithiol pro bono ar faterion cysylltiedig â chyfraith cyflogaeth yng Nghanolfan Cyfraith Caerdydd, ac yn aml yn cyfrannu i raglenni ar Radio Wales, Radio Cymru a BBC Cymru Wales ar destunau cyfraith cyflogaeth.
Enghreifftiau o’i gwaith
- Cynghori cwmniau ar drosglwyddiadau TUPE ar raddfa fawr a’r diswyddiadau a ddilynodd, gan gynnwys delio â chynrychiolwyr etholedig mewn gweithgareddau ymgynghoriad ar y cyd
- Cynrychioli uwch-weithredwyr ar hawliadau a ddaw o ganlyniad iddynt adael cwmniau o’r Ddinas a’r cynfryngau, gan gynnwys nifer o hawliadau anffafriaeth cymhleth
- Cynrychioli swyddogion heddlu mewn hawliad cyflog cyfartal a oedd yn achos prawf
- Cynrychioli unigolion yn eu hawliadau i’r Tribiwnlys Cyflogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg
- Cynrychioli cwmniau ac unigolion yn llwyddiannus ar faterion cynhennus a ddaw o ganlyniad i gyfamodau cyfyngu mewn cytundebau cyflogaeth cyflogeion
- Cynrychioli cwmniau ac unigolion yn llwyddiannus mewn hawliadau diswyddiad annheg, tor-contract, hawliadau anffafriaeth, a hawliadau sy’n codi o dan TUPE
Enghreifftiau o waith a gyflawnwyd
Aelodaeth o Gyrff
Aelodaeth
Cymdeithas y Cyfreithwyr Cyflogaeth
Cyfarwyddwr, Cyfiawnder i Geiswyr Lloches
Diddordebau
Diddordebau
Mae Fflur yn mwynhau canu, darllen a gweithgareddau awyr agored. Mae hi hefyd yn canu’r delyn a’r piano.