Pobl
Fiona Crawford

- DDI: 029 2082 9103
- fcrawford@darwingray.com
- Addysg
Portsmouth High School for Girls, Portsmouth
Prifysgol Reading
Yn 2001, sefydlodd Fiona Blue Apple HR Solutions Ltd gyda’i phartner busnes Claire Cooper i ddarparu gwasanaeth ymgynghori AD i fusnesau bach a chanolig. Canolbwyntiwyd ar gleientiaid o Dde Cymru i ddechrau, ond tyfodd y cwmni i dderbyn cleientiaid dros Gymru gyfan, ynghyd â Birmingham, Llundain, Caerfaddon a Swydd Rydychen. Canolbwyntiai gwaith Fiona ar arwain cleientiaid trwy holl gymhlethdodau cyfraith cyflogaeth, trwy ddarparu cyngor ymarferol priodol o bell neu wyneb yn wyneb. Roedd y prosiectau’n cynnwys archwiliadau iechyd AD, ymgynghoriadau diswyddo, dadansoddi anghenion hyfforddi, archwiliadau cwynion a disgyblu, datblygu systemau perfformio a rheoli, cyngor ad hoc a datblygu llawlyfrau a chontractau i staff a’u cyflwyno iddynt.
Ym mis Rhagfyr 2006, ymunodd Fiona â Darwin Gray i sefydlu’r adran Ymgynghoriaeth AD, er mwyn darparu gwasanaeth cyngor cyfraith cyflogaeth ac AD cyfannol i gleientiaid, trwy un pwynt cyswllt. Mae ystod ei gwasanaethau’n cynnwys cynnal gwrandawiadau disgyblu a chwyno, gwerthusiadau, adolygiadau cyflog ac ymgynghoriadau ar ddiswyddiadau a throsglwyddo ymgymeriadau hyd at ddarparu gwasanaeth AD allanol cyflawn i gwmnïau. Yn ystod ei hamser yn Darwin Gray, mae Fiona wedi sefydlu’i hun yn aelod cwbl werthfawr o’r tîm.
Aelodaeth o Gyrff
Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad