Pobl
Jason Smith

- DDI: 029 2082 9130
- jsmith@darwingray.com
- Cymhwyso
- 1995
- Addysg
Ysgol Gyfun Cas-gwent
University of West of England
Mae Jason hefyd yn arwain 8 Total Management Cyf, sef busnes rheoli chwaraeon Darwin Gray a sefydlwyd yn 2007 fel menter ar y cyd â’r busnes Cysylltiadau Cyhoeddus/Cyfryngau Effective Communication a sêr o fyd chwaraeon Cymru: chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Alix Popham a’r rhedwr athletau 400m Rhys Williams. Bellach, 8 Total Management yw’r asiantaeth chwaraeon fwyaf yng Nghymru, gan gynrychioli chwaraewyr rygbi ac athletwyr. Mae’r tŵf hwn, o ganlyniad, wedi cynyddu gwaith chwaraeon Darwin Gray gan gynnwys contractau masnachol ar gyfer noddi a hyrwyddo, hawliau delwedd a negydu contractau.
Jason yw un o brif gyfreithwyr chwaraeon Cymru, ac yntau wedi cynrychioli nifer o gleientiaid mewn amryw o chwaraeon proffesiynol gan gynnwys rygbi, athletau, bocsio, seiclo, hoci iâ a syrffio barcud.
Enghreifftiau o waith a gyflawnwyd
Corfforaethol/Masnachol
- Gwerthu a chaffael busnesau
- Sefydlu cwmniau a chytundebau cyfranddalwyr
- Contractau masnachol cyffredinol
- Cytundebau gwasanaeth i Gyfarwyddwyr a Chontractau anweithredol
- Cytundebau opsiwn cyfranddaliadau
- Cyngor ar ddyletswyddau a chyfrifoldebau cyfarwyddwyr
- Drafftio a chynghori cwmniau ar nifer o gytundebau masnachol er mwyn diogelu cyflenwad o ddata corfforaethol a chytundeb cynhyrchu rhyngwladol a chytundeb darparu gwybodaeth
- Cynrychioli cleientiaid amrywiol parthed creu cwmnïau menter ar y cyd, ag un o’r rheini yng Nghanada.
- Gweithio fel cynghorydd cyfreithiol a chyfarwyddwr anweithredol i glwb Rygbi’r Gynghrair y Crusaders Celtaidd
- Cynghori cyn Hyfforddwr Undeb Rygbi Cymru Gareth Jenkins ar ei gontract prif hyfforddwr gydag Undeb Rygbi Cymru a chynrychioli’r seren o fyd athletau, Colin Jackson
- Cynghori clwb hoci iâ ar gytundebau noddi a chwaraewyr
- Gweithio fel cynghorydd i chwaraewyr academi Undeb Rygbi Cymru
- Cynghori a chynrychioli pobl o fyd chwaraeon ar droseddau disgyblu a dopio, gan gynnwys ymddangos gerbron y Llys Cyflafareddu Rhyngwladol ar gyfer Chwaraeon yn y Swistir, parthed dehongliad o’r Cod Gwrth-ddopio Byd-eang.
- Sefydliad y Cyfarwyddwyr
- Cymdeithas Brydeinig Chwaraeon a’r Gyfraith
Mae Jason yn treulio’i amser hamdden yn rhedeg, beicio mynydd ac eirafyrddio.