Pobl

Kempton Rees

Kempton Rees
DDI: 029 2082 9125
krees@darwingray.com
Cymhwyso
1995
Addysg

    Perse School, Caergrawnt

    Prifysgol Rhydychen (St Peter’s College)

    Coleg y Gyfraith, Efrog  

Ar ôl graddio o Rydychen gyda gradd mewn Economeg Peirianneg a Rheoli, gweithiodd Kempton fel rheolwr cynhyrchu i gwmni adeiladu yn Ninas Llundain.                       
Er iddo fwynhau gweithio mewn het galed, daeth i sylweddoli’n fuan, yn awyrgylch ymfflamychol y safle adeiladu, mai’r hyn yr oedd yn ei fwynhau’n bennaf oll oedd dadl danbaid.
Ar ôl dwy flynedd yn Ysgol y Gyfraith, ymunodd Kempton â chwmni o bwys yn Ninas Llundain, lle cwblhaodd ei hyfforddiant cyfreithiol ffurfiol. Ar ôl cymhwyso’n gyfreithiwr, dychwelodd at ei wreiddiau yng Nghaerdydd, lle’r ymunodd â Geldards LLP yn gynorthwyydd yn ei Adran Datrys Anghydfodau Masnachol. Fe’i gwnaethpwyd yn bartner yn Geldards yn 2003 ac aeth ymlaen i arwain timoedd methdaliad a throsedd a rheoleiddio corfforaethol y cwmni, yn ogystal ag ymgymryd ag achosion cynhennus amrywiol.
Ymunodd Kempton â Darwin Gray yn ystod haf 2008.        
Mae Kempton yn adnabyddus yn ardal De Cymru a Gorllewin Lloegr am ei brofiad datrys anghydfod a’i arbenigedd mewn methdaliad. Mae’n gwasanaethu fel aelod o’r pwyllgor rhanbarthol ar gyfer y gymdeithas methdaliad, R3.
Fe’i cydnabyddir yn gyfreithiwr blaenllaw yng Nghymru, yn y Legal 500 a chyhoeddiadau’r Siambrau a Phartneriaid. Yn ôl ei gleientiaid, mae’n “graff a hyderus” a chaiff glôd arbennig am ei barodrwydd “i ddefnyddio dulliau hyblyg”.
Enghreifftiau o waith a gyflawnwyd
Datrys Anghydfodau Masnachol
Ymgyfreitha masnachol cyffredinol, yn cynnwys:
  • Hawliadau contractau
  • Anghydfodau partneriaethau
  • Esgeulustod proffesiynol
  • Anghydfodau ymddiriedolaeth/profiant
  • Anghydfodau adeiladu 
  • Anghydfodau asiantaethau
  • Atebolrwydd cynnyrch
  • Gwaharddebau/gorfodebau
  • Atebolrwydd cyfarwyddwr a hawliadau cyfranddalwyr
  • Hawliadau camwedd ac ecwiti cyffredinol
  • Hawliadau cyfraith gyhoeddus (camwaith, torri dyletswydd statudol etc)
Dulliau amgen i ddatrys anghydfodau, yn cynnwys:
  • Cyfryngu       
  • Tribiwnlysoedd
  • Cyflafareddu
  • Cwynion i ombwdsmyn a chyrff proffesiynol   
  • Hawliadau hawliau dynol
Troseddu a Rheoleiddio Masnachol
  • Cynghori a chynrychioli cleientiaid i’w hamddiffyn mewn pob math o archwiliadau, cyfweliadau ac erlyniadau rheoliadol, gan gynnwys y rheini a gyflwynwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd; Safonau Masnach; Swyddfa Weithredol Iechyd a Diogelwch; DEFRA; Adrannau Iechyd yr Amgylchedd; a’r Comisiynydd Cludiant.       
  • Paratoi a gweithredu protocol parod ei ddefnyddio i gynghori cleientiaid ar gyrchoedd gyda’r wawr gan y Comisiwn Cystadleuaeth.
·        Methdaliad
  • Mae wedi cynghori ymarferwyr methdaliad ar holl agweddau methdaliad corfforaethol, gan gynnwys gweinyddwyr, datodiadau a derbynyddiad        
  • Gweithio dros ac yn erbyn cyfarwyddwyr cwmniau methdaliadol o ran eu dyletswyddau ymddiriedol a’u trafodion blaenorol     
  • Profiad helaeth o gynghori ymarferwyr methdaliad ac unigolion preifat ar yr holl faterion sy’n deillio o fethdaliad personol       
Diddordebau
Pan nad yw’n brwydro dros ei gleientiaid neu’n treulio amser gyda’i deulu, mae Kempton yn gwneud gwaith gwirfoddol i Ymddiriedolaeth y Tywysog ac mae wrthi’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd. Mae hefyd yn mwynhau canu gyda chôr Gleision Caerdydd, chwarae golff, gwylio rygbi a hedfan am ddigon o oriau er mwyn cadw ei drwydded beilot.

Enghreifftiau o waith a gyflawnwyd

pdf logo Download CV