Pobl
Rhodri Lewis

- DDI: 029 2082 9109
- rlewis@darwingray.com
- Cymhwyso
- 1997
- Addysg
Liverpool College
Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Cymru (UWIST) Caerdydd
Bsc (Econ) Anrhydedd mewn Economeg Fusnes
Prifysgol Morgannwg – Arholiad Proffesiynol Cyffredinol y Gyfraith
Prifysgol Caerdydd – Cwrs Ymarfer y Gyfraith
Yna, symudodd Rhodri i swyddfa Morgan Cole yng Nghaerdydd er mwyn ennill rhagor o arbenigedd mewn ymgyfreitha eiddo cyn symud i weithio fel cyfreithiwr mewnol i Peacock Group plc, cadwyn fanwerthu genedlaethol fawr. Ymunodd â Darwin Gray fel partner ym mis Mehefin 2003 ac mae’n cynorthwyo’r partneriaid Donald Gray ac Alison Ivin yn y tîm eiddo. Mae hefyd yn arwain y tîm ymgyfreitha masnachol, a chanddo brofiad helaeth o gynghori ar bob math o anghydfodau masnachol. Mae ganddo arbenigedd neilltuol mewn anghydfodau ynghylch contractau ac eiddo. Mae hefyd yn gymharol rugl yn y Gymraeg.
Enghreifftiau o waith a gyflawnwyd
Datrys Anghydfodau Masnachol
Cynghori unigolion, partneriaethau a chwmnïau ar bob math o anghydfodau masnachol gan gynnwys rhai’n ymwneud â chontractau, dal cyfranddaliadau, partneriaethau, eiddo deallusol, esgeulustod proffesiynol ac anghydfodau’n ymwneud ag eiddo.
Mae gan Rhodri brofiad helaeth o weithdrefnau’r Uchel Lys a’r Llys Sirol (gan gynnwys cymorth brys) ac o ddulliau amgen i ddatrys anghydfod megis cyfryngu a chyflafareddu. Mae ganddo brofiad hefyd o amddiffyn mewn achosion rheoliadol a throseddol megis erlyniadau safonau masnachu.
Mae gwaith caled ac ymroddiad Rhodri yn parhau i gynyddu’r llwyth gwaith ym maes ymgyfreitha adeiladu a pheirianneg, gan ledu enw da Darwin Gray. Mae Rhodri a’r partner Stephen Thompson yn aml yn gweithio dros amryw bartïon mewn contractau adeiladu gan gynnwys y cyflogwr, contractwyr, isgontractwyr a chynghorwyr proffesiynol. Mae cyfryngu’n dod yn ffordd hynod effeithiol o ddatrys anghydfodau ac mae’r tîm wedi cael canlyniadau arbennig o dda yn hyn o beth.
Eiddo Masnachol
Mae Rhodri hefyd yn delio â materion yn ymwneud ag eiddo masnachol. Mae wedi gweithio i Landlordiaid a Thenantiaid mewn trafodion prydles ac mae’n brofiadol ym maes prynu a gwerthu eiddo masnachol.
Corfforaethol/Masnachol
Cytundebau masnachol
Drafftio a negydu ystod eang o gytundebau masnachol, o gytundebau partneriaeth, asiantaeth a dosbarthu i delerau ac amodau masnachol cyffredinol.
Diddordebau
Mae Rhodri’n mwynhau gemau pêl a choginio