Pobl

Rhys Parsons

Rhys Parsons
DDI: 029 2082 9122
rparsons@darwingray.com
Cymhwyso
2007
Addysg

    Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

    London School of Economics

    Oxford Institute of Legal Practice

Cwblhaodd Rhys ei gontract hyfforddi gyda chwmni yn Ninas Llundain, Norton Rose, lle’r enillodd brofiad yn y timoedd bancio, corfforaethol, ymgyfreitha a chyflogaeth. Yn ogystal, gweithiodd ar leoliad am chwe mis yn swyddfa’r cwmni ym Mharis, yn arbenigo yng nghyllid y byd hedfan.
Ar ôl cymhwyso, ymunodd Rhys â’n tîm cyfraith cyflogaeth, gan weithio gyda Bethan Darwin a Jason Smith. Mae wedi ennill profiad yn cynorthwyo cyflogwyr yn ogystal â gweithwyr gyda materion cynhennus a digynnen, gan gynnwys drafftio cytundebau gwasanaeth, cytundebau cyfaddawdu, gweithdrefnau disgyblu a chwyno, cynghori ynghylch TUPE a chynnal gwrandawiadau tribiwnlys cyflogaeth.               
Mae Rhys hefyd yn helpu Jason Smith gyda chyfraith chwaraeon. Dyfarnwyd tystysgrif i Rhys gan Ffederasiwn Rygbi Ffrainc sy’n ei ganiatáu i gynrychioli chwaraewyr proffesiynol a chlybiau yn Ffrainc. Mae’n un o ddim ond dau asiant trwyddedig nad ydynt yn ddinasyddion Ffrengig. Mae Rhys yn cynghori nifer o chwaraewyr rygbi o bwys yn y DU a Ffrainc, ac mae wedi cynghori ar nifer o drosglwyddiadau diweddar a gafodd gryn dipyn o sylw.
Mae Rhys yn siarad Cymraeg yn rhugl, ac yn sgil ei gyfnod ym Mharis a’i dymor yn gweithio i Glwb Rygbi Agen, mae e hefyd yn siarad Ffrangeg yn rhugl.
Diddordebau
Pob gêm â phêl, ond mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn rygbi.

pdf logo Download CV