Pobl
Stephen Thompson

- DDI: 029 20829136
- sthompson@darwingray.com
- Cymhwyso
- 1993
- Addysg
Hutton Grammar School
University of West England
Ar ddechrau 1996, symudodd Steve i’r cwmni cenedlaethol Pinsent Curtis, gan ymuno â’u swyddfa yn Birmingham. Tra roedd yn Pinsent Curtis, datblygodd ragor o arbenigeddau methdaliad yn ogystal ag ymgyfreitha rhyddfraint.
Ar ddiwedd 1997, ymunodd Steve â Gimblett Williams, cwmni arbenigol yng Nghaerdydd, yn gyfreithiwr cysylltiol. Wedi hynny, daeth yn bartner yn 2000. Tra roedd yn Gimblett Williams, datblygodd ac ehangodd Steve ei ymarfer ymgyfreitha, a dechreuodd arbenigo hefyd mewn gwaith digynnen. Symudodd Steve i Darwin Gray fel partner yn 2004. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar y cyd â Rhodri Lewis yn yr adran Datrys Anghydfodau ac â Jason Smith parthed materion Masnachol a Chorfforaethol. Yn ogystal, yn rhan o’i ymarfer ymgyfreitha, mae Darwin Gray yn ymgymryd â gwaith methdaliad. Bydd Stephen yn aml yn cynghori cwmniau, unigolion ac ymarferwyr methdaliad ar holl agweddau methdaliad, ac yn rhoi cyflwyniadau i gleientiaid ar y pwnc yn rheolaidd.
Bydd Stephen yn aml yn cymryd rhan mewn anghydfodau adeiladu gan gynnwys hawliadau esgeulustod personol. Mae hefyd wedi datrys anghydfodau partneriaethau proffesiynol yn llwyddiannus. Mae ei ddiddordeb arbennig mewn gwaith rhyddfraint a’i allu i gynnig safbwynt cynhennus a digynnen yn ei wneud yn gynghorydd rhagorol mewn anghydfodau rhyddfraint.
Enghreifftiau o waith a gyflawnwyd
Datrys Anghydfodau Masnachol
- Hawliadau esgeulustod proffesiynol yn erbyn cyfreithwyr, cyfrifwyr a phenseiri
- Hawliadau yn erbyn banciau a sefydliadau ariannol eraill
- Ymgyfreitha methdaliad, gan gynrychioli deiliaid y swyddfa yn ogystal â chyn- gyfarwyddwyr
- Amddiffyn gweithdrefnau diarddel cyfarwyddwyr DTI
- Ymgyfreitha adeiladu, gan gynnwys cyflafareddu a dyfarnu
- Ymgyfreitha rhyddfraint, gan gynrychioli’r rhyddfreinwyr yn ogystal â’r deiliaid rhyddfraint.
- Anghydfodau partneriaid a diddymu
- Anghydfodau cyfranddalwyr
Corfforaethol/Masnachol
· Cynghori rhyddfreinwyr a deiliaid rhyddfraint ar eu hymrwymiadau cyfreithiol
· Cytundebau a thrwyddedau meddalwedd
· Asiantaethau, dosbarthu a chytundebau masnachu eraill
· Gweithredoedd partneriaid
· Ffurfio cwmniau a chytundebau cyfranddalwyr
· Ymgorffori busnesau
· Telerau masnachu safonol
· Cytundebau masnachol cyffredinol a chaffaeliadau busnes
· Cyngor ar ddyletswyddau cyfarwyddwyr
Achosion o Bwys
Cynrychiolodd Steve oddeutu 50 o bobl a dwyllwyd gan gynllwyniwr “IOU” yr Halifax o Dre-gwyr. Negydodd daliad sylweddol ar gyfer ei gleientiaid gan yr Halifax.
Rhyddfreinio
Aelodaeth o Gyrff
Diddordebau
Mae Steve yn mwynhau treulio amser gyda’i deulu. Ymhlith ei ddiddordebau eraill, mae gwersylla a chymdeithasu