Pobl

Caroline Hazell

Caroline HazellYmunodd Caroline â Darwin Gray yn 2004 ac mae’n gweithio yn yr Adran Gyfrifon lle mae’n cynorthwyo Jason Smith a Nita Narbad gyda rheolaeth ariannol y cwmni. Mae hi ar hyn o bryd yn astudio am Ddiploma Sefydliad Arianwyr a Gweinyddwyr y Gyfraith. Mae Caroline hefyd yn gweithio gyda Bethan Darwin i drefnu digwyddiadau hynod lwyddiannus ‘Superwoman’, (ac yn treulio’r rhan fwyaf o fis Hydref yn llenwi bagiau rhoddion!) Yn ei hamser hamdden, mae Caroline yn mwynhau canu gyda Chymdeithas Gorawl Cadeirlan Llandaf, ac mae’n chwarae tenis i dîm cyntaf Clwb Tenis Lawnt Penarth.