Pobl
Nita Narbad

Nita yw Cyfrifydd y Cwmni. Mae hi’n aelod cymrawd o’r Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig ac yn gyd-aelod o Sefydliad Arianwyr y Gyfraith. Graddiodd Nita o UWIC a chychwynnodd ei gyrfa gyda Touche Ross yng Nghaerdydd. Gweithiodd ym maes cyfrifeg am nifer o flynyddoedd cyn symud i faes y gyfraith pan ymunodd â Darwin Gray yn 2006. Yn ei hamser hamdden mae hi’n aelod gweithgar o’r Gymuned Asiaidd ac mae’n cefnogi’r gymuned honno gydag amryw o ddigwyddiadau. Mae Nita hefyd yn mwynhau dawnsio Indiaidd clasurol a therapïau cyflenwol.