Policies & practices
Cyfrifoldeb cymdeithasol y cwmni
Yr Amgylchedd
Cawsom archwiliad amgylcheddol gan Rwydwaith Arena, sy’n rhan o Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd, ym mis Medi 2007. Ystyriwyd bod ein heffaith ar yr amgylchedd yn isel, a rhoddwyd canmoliaeth i’n hymrwymiad i gyflwyno system reoli amgylcheddol.
Mae ein system reoli amgylcheddol yn cynnwys y canlynol:
Papur: Trwy SES Recycling rydym yn carpio ac ailgylchu holl bapur a chardfwrdd y swyddfa. Rydym hefyd yn defnyddio hên bapur swyddfa trwy ei ailgylchu i wneud llyfrau nodiadau mewnol.
Pan fyddwn yn prynu papur, cyhyd â bod hynny’n bosibl, dewiswn bapur sydd wedi’i ailgylchu’n llwyr neu’n rhannol ar gyfer argraffwyr a pheiriannau llungopïo.
Rydym hefyd yn anelu at leihau’r defnydd o bapur yn y swyddfa trwy storio dogfennau’n electronig.
Caledwedd: Trwy Gyflenwadau Laser I-Tel, rydym yn ailgylchu’n holl arlliwiau gwag, ac maent yn rhoi cyfran o’r arlliwiau wedi’u hailgylchu i elusennau amrywiol.
Caiff hên ffonau symudol y swyddfa/ffonau personol a’u hategolion eu postio i Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth i gael eu hailgylchu; aiff yr holl elw’n syth i helpu pobl ag Awtistiaeth.
Defnyddio ynni: Rydym hefyd wedi trefnu i’r Ymddiriedolaeth Garbon anfon sticeri a phosteri atom i’w harddangos o gwmpas y swyddfa, i ofyn i staff arbed ynni trwy ddiffodd goleuadau, cyfrifiaduron etc a hefyd i’w hysbysu faint o ynni a ddefnyddir pan adewir offer trydanol ymlaen dros nos.
