Policies & practices
Cyfrifoldeb cymdeithasol y cwmni
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Rydym ar ein hennill o gael tîm amrywiol o weithwyr ac rydym yn eu trin yn yr un modd â’n cleientiaid a’n cyflenwyr – yn gwbl deg. O ganlyniad, mae gennym weithwyr ffyddlon sy’n llawn brwdfrydedd. Ein nôd yw sicrhau bod ein cymuned fewnol amrywiol yn adlewyrchu’r gymuned allanol yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn rhyngweithio ynddi.
Rydym yn rhoi cyngor ar gydraddoldeb ac amrywiaeth i’n cleientiaid. Mae’n rhan allweddol o’n gwasanaeth cynghori. Ystyriwn fod gan bawb ddyletswydd a chyfrifoldeb mewn perthynas â thegwch. Mae ein cleientiaid yn disgwyl ac yn derbyn y byddwn yn ystyried goblygiadau cydraddoldeb ac amrywiaeth eu problem gyfreithiol.
Mae un o’n cyfreithwyr, Eleanor Williams, newydd adael Darwin Gray i fod yn Bennaeth y Gyfraith yng Nghomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru. Mae’n ddiolchgar i Darwin Gray am roi profiad iddi o weithio i gwmni sy’n rhoi lle canolog i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei fusnes.
Yn ogystal â bod yn ganolfan gyfraith arbenigol, mae Darwin Gray yn cynnal seminarau, yn darparu hyfforddiant ac yn rhoi cyngor Adnoddau Dynol ymarferol ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth.
