Policies & practices
Cyfrifoldeb cymdeithasol y cwmni
Gwaith pro bono
Plant y Cymoedd

Mae Darwin Gray yn rhoi cefnogaeth gadarn i Blant y Cymoedd, sef elusen sy’n gweithio â phlant difreintiedig a’u teuluoedd yn Ne Cymru. Rydym yn aelod o’u rhaglen gymorth gorfforaethol, Kids Count, ac yn darparu cyngor cyfreithiol pro bono yn rheolaidd. Rydym yn arbennig o falch o waith Donald Gray a Sarah McGivern a gynorthwyodd Blant y Cymoedd i brynu Capel Soar. Bellach, ar ôl pedair blynedd o godi arian a blwyddyn o ailwampio, trowyd y Capel yn Ganolfan Soar Plant y Cymoedd: canolfan gymunedol amlbwrpas ardderchog sy’n gwasanaethu pobl y Rhondda. www.valleyskids.org.uk
Cyfiawnder i Geiswyr Lloches

Yn 2007, enillodd Fflur Jones, un o weithwyr ein tîm cyflogaeth, wobr Pro Bono Cyfreithiwr Ifanc Cymdeithas y Cyfreithwyr am ei gwaith gyda Chyfiawnder i Geiswyr Lloches, sy’n darparu cyngor cyfreithiol i geiswyr lloches sy’n byw yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe. Mae Fflur yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim yn ei hamser ei hun i geiswyr lloches sy’n aml yn methu â defnyddio’r system gyfiawnder.
Canolfan Gyfraith Caerdydd
Mae aelodau o’n tîm cyflogaeth yn gwirfoddoli’n rheolaidd mewn Cymorthfeydd Cyfraith Cyflogaeth gyda’r nos yng Nghanolfan Gyfraith Caerdydd yn Adamsdown.
Ymddiriedolaeth y Tywysog
Mae ein partner Kempton Rees wedi ymgymryd â nifer o ddyletswyddau gwirfoddol gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog ers blynyddoedd. Bellach, mae’n aml yn eistedd ar banel sy’n gyfrifol am ddyfarnu grantiau a benthyciadau i ddarpar entrepreneuriaid ifanc o gefndiroedd difreintiedig. I ddysgu mwy am waith ardderchog yr Ymddiriedolaeth, ewch i www.princes-trust.org.uk
Elusennau
Mae’r partner Jason Smith yn dwlu ar her gorfforol i godi arian at elusennau. Dyma’i gampau, hyd yn hyn:
- Seiclo 250 milltir oddi ar y ffordd o Gaergybi i Gaerdydd mewn 4 diwrnod i godi dros £2,000 at apêl Arch Noa.
- Rhedeg Her Pumlumon (marathon traws gwlad) gan godi dros £1,000 at Ambiwlans Awyr Cymru.
- Seiclo 120 milltir dros Ffordd y South Downs i godi dros £750 ar gyfer ffynhonnau dwr yfed yn India.
