Galw am orfodi adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar fusnesau bach
Awst 23, 2018
Ar hyn o bryd, dim ond sefydliadau â 250+ o staff sy’n cael eu dal gan reoliadau 2017 sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gyhoeddi (ar eu gwefannau eu hunain ac ar wefan y Llywodraeth) ffigurau mewn perthynas â’u bylchau cyflog cymedrig a chanolrifol a bonws.
Roedd y set gyntaf o ffigurau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn dangos bod gan y sefydliadau hyn fwlch cyflog canolrifol o 9.7%, gyda 78% o’r rhai a gafodd eu dal yn dweud bod dynion yn cael mwy o gyflog na menywod.
Fodd bynnag, amcangyfrifir y bydd gan fusnesau â gweithluoedd llai, yn enwedig y rhai â 50-99 o weithwyr, fwlch cyfartalog llawer ehangach. Mae ymchwil y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y canolrif cenedlaethol tua 18%.
Hyd yn hyn mae'r Llywodraeth wedi penderfynu peidio â gosod y gofynion adrodd ar fentrau bach a chanolig (BBaCh) oherwydd y baich gweinyddol a chostau y mae hyn yn ei roi. Fodd bynnag, mae adroddiad BEIS yn argymell, oherwydd maint tebygol y bwlch cyfartalog ymhlith busnesau bach a chanolig, mai’r unig ffordd o sicrhau effeithiolrwydd y rheolau adrodd fyddai ehangu eu rhwyd i ddal y busnesau hynny.
Mae’r adroddiad hefyd yn argymell y dylid cyflwyno pŵer i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol osod cosbau ariannol ar unrhyw sefydliadau sy’n methu â chydymffurfio â’r gofynion hynny.
Gan y bydd angen i’r Llywodraeth ystyried y cynigion yn awr, mae’n debygol y bydd cryn amser cyn y bydd busnesau bach a chanolig yn ddarostyngedig i’r rheoliadau adrodd; fodd bynnag, gall unrhyw BBaChau sy'n pryderu ynghylch gwneud hynny ystyried adolygu eu ffigurau'n fewnol a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol.