5 Cyngor Contract Cyflenwr Gorau i Elusennau
Mawrth 24, 2023
Gan Siobhan Williams
Mae'r rhan fwyaf o'r materion y dylai elusennau eu hystyried cyn ymrwymo i gontract gyda chyflenwr yn union yr un fath â'r rhai a wynebir gan sefydliadau masnachol eraill. Rydym yn nodi ein 5 awgrym gorau isod.
A ydych yn deall eich rhwymedigaethau cyfreithiol?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y contract yn drylwyr i sicrhau eich bod nid yn unig yn deall beth yw eich rhwymedigaethau cyfreithiol, ond y byddwch yn gallu cydymffurfio â nhw. Dylech hefyd sicrhau eich bod yn rhoi unrhyw ddyddiadau allweddol yn eich dyddiadur, fel nad ydych yn anghofio gwneud rhywbeth ac yn mynd yn groes i'r contract yn y pen draw.
Beth yw hyd y contract?
Dylech wirio cyfnod y contract a rhoi sylw arbennig hefyd i'r darpariaethau adnewyddu. Mae rhai contractau (yn enwedig yn y sectorau TG a thelathrebu) yn cynnwys darpariaethau adnewyddu awtomatig, sy'n golygu os na fyddwch yn rhoi hysbysiad yn unol â'r gofynion cytundebol, efallai y byddwch yn gaeth i delerau cytundebol llawn ar adnewyddiad.
Hefyd, ystyriwch a ddylech gynnwys opsiwn “dim bai” i derfynu, sy’n golygu y gallwch fynd allan o’r contract ar rybudd ysgrifenedig os oes angen.
Beth yw eich rhwymedigaethau posibl?
Os ydych yn ymrwymo i gontract i dderbyn nwyddau neu wasanaethau, byddech yn disgwyl gorfod talu amdanynt. Fodd bynnag, efallai y gwelwch fod y contract yn gosod rhwymedigaethau ychwanegol arnoch mewn perthynas â meysydd eraill megis diogelu data. Dylech wirio'r contract yn ofalus am rwymedigaethau posibl a chadw llygad arbennig am unrhyw fath o indemniad y mae'n ofynnol i chi ei roi.
A yw'r cyflenwr wedi ceisio cyfyngu ar ei atebolrwydd?
Mae llawer o gyflenwyr yn ceisio cyfyngu ar eu hatebolrwydd o ran y nwyddau a/neu wasanaethau y maent wedi cytuno i’w darparu. Gall hyn fod trwy gyfeirio at yr hyn a delir iddynt (er enghraifft lluosrif o'r pris a dalwyd) neu fel arall trwy gyfeirio at derfyn eu hyswiriant.
Os yw'r cyflenwr yn ceisio cyfyngu ar ei atebolrwydd gwnewch yn siŵr bod y terfyn yn briodol i chi, o safbwynt risg masnachol a chyfreithiol.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth ceisiwch gyngor arbenigol
Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch ystyr unrhyw un o delerau’r contract, ceisiwch gyngor cyfreithiol arbenigol.
Os hoffech drafod unrhyw un o’r materion uchod yn fanwl neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Siobhan Williams, ar 029 2082 9124 neu swilliams@darwingray.com.