Newidiadau Mawr i Dâl Gwyliau ar y Ffordd
Tachwedd 14
Beth yw’r cefndir i hyn?
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymateb o’r diwedd i’r ymgynghoriad ar dâl gwyliau sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers peth amser. Mae hyn wedi deillio o ganlyniad i’r Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a phenderfyniad y Llywodraeth i adolygu rhannau penodol o gyfraith cyflogaeth gwledydd Prydain o ganlyniad i hyn. Mae hawl i wyliau a thâl o dan Reoliadau Oriau Gwaith XNUMX yn faes lle mae cyfraith achosion yn gwrthdaro ers peth amser.
Mae ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad yn awgrymu ein bod ar fin gweld newidiadau mawr i dâl gwyliau i weithwyr sy’n gweithio oriau afreolaidd (fel gweithwyr achlysurol) neu gweithwyr sydd ond yn gweithio am ran o’r flwyddyn (fel gweithwyr tymor).
Beth sy'n mynd i newid?
Dyma’r newidiadau sy’n debygol o ddigwydd:
Pryd fydd hyn yn digwydd?
Mae’n debygol y bydd y newidiadau yn dod i rym yn fuan iawn – o 1 Ionawr 2024 ymlaen – felly mae angen i gyflogwyr weithredu nawr i wirio bod eu systemau cyflogres a’u polisïau adnoddau dynol yn cael eu diweddaru.
Ar bwy bydd hyn yn cael effaith?
Pob cyflogwr sydd â gweithwyr heb batrwm penodol o oriau – e.e. gweithwyr oriau achlysurol (a elwir weithiau yn weithwyr oriau ad hoc), gweithwyr dim oriau, gweithwyr rhan o’r flwyddyn a rhai gweithwyr asiantaeth.
Bydd y dull newydd yn adlewyrchu trefniant tebyg i ‘gronni wrth fynd’ ar gyfer gweithwyr oriau afreolaidd, hynny yw, byddan nhw’n cronni gwyliau wrth iddyn nhw weithio a gellir eu talu am wyliau wrth i’r gwyliau hynny gronni.
Beth sydd angen i gyflogwyr ei wneud?
Os oes angen cymorth arnoch gydag unrhyw fater uchod, cysylltwch ag aelod o'n tîm cyflogaeth, Rachel Ford-Evans, ar 02920 829 120 neu RFord-Evans@darwingray.com i gael sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut y gallwn eich helpu.