Beth yw trefniant dosbarthu?
O dan drefniant dosbarthu, mae cyflenwr neu wneuthurwr yn gwerthu ei gynhyrchion i ddosbarthwr, sydd wedyn yn gwerthu'r cynhyrchion ymlaen i'w gwsmeriaid; fel arfer o fewn lleoliad daearyddol penodol. Felly mae gan y cwsmer terfynol gontract uniongyrchol gyda'r dosbarthwr. Mae cyflenwyr yn aml yn defnyddio dosbarthwyr i ehangu eu busnes i farchnadoedd neu diriogaethau newydd.
Beth yw pwrpas cytundeb dosbarthu ysgrifenedig?
Pwrpas cytundeb dosbarthu yw pennu hawliau a rhwymedigaethau'r partïon. Mae'n bwysig cofnodi'n union ar ba delerau y penodir y dosbarthwr, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar ailwerthu a thiriogaeth, er mwyn sicrhau nad yw'r trefniant yn mynd yn groes i gyfraith cystadleuaeth. Gall diffyg eglurder arwain at anghydfodau diangen.
Beth ddylai'r cytundeb dosbarthu ei gynnwys?
Bydd telerau'r cytundeb dosbarthu yn dibynnu ar y ffeithiau a'r amgylchiadau perthnasol, gan gynnwys y berthynas fasnachol rhwng y partïon.
Mae telerau sy'n gyffredin i bob cytundeb dosbarthu yn cynnwys:
A oes angen drafftio'r cytundeb yn broffesiynol?
Nid oes unrhyw rwymedigaeth i ddefnyddio cyfreithiwr i ddrafftio'r cytundeb dosbarthu. Fodd bynnag, gall cytundeb wedi’i ddrafftio’n broffesiynol osgoi anghydfodau rhag codi, ac yn yr achos anffodus y maent yn codi, nodi ffyrdd i’r partïon ddatrys yr anghydfod neu, os oes angen, gadael y trefniant.
Mae hefyd yn bwysig nodi bod cyfreithiau sy'n llywodraethu penodi a gweithredu dosbarthwr yn amrywio o wlad i wlad. Felly, dylai cyflenwr bob amser geisio cyngor gan gyfreithiwr lleol ar unrhyw ofynion lleol penodol.
Os oes angen unrhyw gyngor arnoch ar gytundebau dosbarthu cysylltwch ag aelod o'n tîm cyfraith gorfforaethol a masnachol yn gyfrinachol yma neu ar 02920 829 100 am alwad gychwynnol am ddim i weld sut y gallant helpu.