Fel Cymdeithas Tai, byddwch yn wynebu heriau sy’n unigryw i’ch sector. Gall y rhain gynnwys heriau gwleidyddol, cymdeithasol neu ariannol. Mae ein harbenigwyr yn brofiadol iawn o ran cynghori Cymdeithasau Tai, ac yn deall y pwysau sy'n eich wynebu.
Rydym yn gweithredu ar ran nifer sylweddol o Gymdeithasau Tai ledled Cymru, gan gynnig ein harbenigedd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi rheolaidd wedi'u teilwra ar gyfer Cymdeithasau Tai ac mae ein cyfreithwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy'n wynebu'r sector tai.
Rydym bob amser wedi canfod bod y tîm yn Darwin Gray yn ymatebol iawn ac mae pawb yn cyfathrebu mewn ffordd syml yn hytrach na bod yn rhy gyfreithiol. Maent hefyd wedi darparu hyfforddiant i'n rheolwyr llinell ac roedd yr adborth o'r sesiynau yn gadarnhaol iawn.
Lynne Williams, Cymdeithas Tai Gogledd Cymru