Diweddariad hydref gan y Tîm 2014
Rhagfyr 18, 2014
Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi ehangu ein hadran Adnoddau Dynol gyda dyrchafiad Danielle Boucher. Cyn hynny bu Danielle yn gweithio yn y dderbynfa. Wedi dangos diddordeb brwd mewn datblygu ei sgiliau a dysgu disgyblaeth newydd, penderfyniad hawdd oedd ei phenodi’n Gynorthwyydd AD i’n Hymgynghorydd, Fiona Sinclair. Ar hyn o bryd mae Danielle yn dilyn ei chwrs CIPD yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, y mae disgwyl iddi ei gwblhau ym mis Mai 2015.
Ym mis Mai eleni roeddem yn falch o groesawu Ashley Coleman fel ein derbynnydd newydd. Daeth atom ar leoliad trwy Hyfforddiant ACT, lle'r oedd yn rhan o'u Hacademi Cyn-Brentisiaeth. Cafodd ei enwebu gan ACT ar gyfer Gwobrau Prentisiaeth Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru 2014, i gydnabod ansawdd ei waith yno yn ogystal ag yma yn Darwin GrayCynhaliwyd y seremoni fawreddog yn y Celtic Manor ar 31 Hydref, gydag Ashley wedi’i henwi’n Ddysgwr Hyfforddeiaeth y Flwyddyn sy’n gamp wych – llongyfarchiadau Ashley!
Ym maes newyddion chwaraeon, cymerodd Gareth Wedge (Cydymaith yn ein hadran Eiddo Masnachol) a Damian Phillips (Partner yn ein Tîm Cyflogaeth) ran yn Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul 5ed Hydref. Cwblhaodd y ddau mewn amseroedd gwych gyda Damian yn cyflawni gorau personol! Hefyd, cwblhaodd Owen John, (Cydymaith yn ein Tîm Cyflogaeth) The Dublin mewn amser gwych o lai na 3.5 awr ar ddiwedd mis Hydref. Yn olaf ond nid lleiaf, nid yn unig mae Owen wedi bod yn brysur yn hyfforddi ar gyfer y marathon, fe briododd fis diwethaf hefyd, llongyfarchiadau i Owen a'i wraig newydd, Lois!