Bwriad y llywodraeth i fonitro perchnogion a chyfarwyddwyr cwmnïau
Mai 12, 2014
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ei bwriad i lunio cofrestrfa ganolog, wedi’i monitro gan Dŷ’r Cwmnïau, o’r holl bobl sy’n dal mwy na 25% o gyfranddaliadau mewn cwmni, hawliau pleidleisio mewn cwmni neu sydd fel arall yn rheoli rhedeg cwmni.
Y bwriad y tu ôl i'r gofrestr yw clampio i lawr ar osgoi treth a gwyngalchu arian.
Yn ogystal, mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno rheolau newydd i atal unigolyn rhag rhedeg cwmni lle mae wedi’i gael yn euog o drosedd fasnachol dramor. Mae'r Llywodraeth hefyd yn ceisio cyflwyno pwerau newydd i ddyfarnu iawndal i unrhyw ddioddefwyr yr effeithir arnynt gan gyfarwyddwr sydd wedi'i wahardd.
Megis dechrau y mae'r cynlluniau a bydd angen deddfwriaeth newydd. Fodd bynnag, mae hyn yn arwydd bod y Llywodraeth am fabwysiadu dull mwy rheoleiddiol yn y maes hwn.