Darwin Gray rowndwyr terfynol Cwmni Cyfraith Eiddo'r Flwyddyn 2017
Mehefin 23, 2017
Arweinir y tîm gan bartner a sylfaenydd Donald Gray, sydd â dros 25 mlynedd o brofiad mewn Eiddo Masnachol, gan gynnwys arbenigeddau mewn meysydd arbenigol megis ynni, mwyngloddio a mwynau yn ogystal â môr-lynnoedd llanw. Mae Donald yn uchel ei barch ac yn adnabyddus am ei arbenigedd yn ei faes, ac mae’n unigolyn blaenllaw yn y maes hwn gan y cyfeiriadur cyfreithiol Chambers & Partners.
Mae aelodau allweddol o’n tîm Eiddo Masnachol, Catherine Burke a Gareth Wedge, wedi’u rhestru fel dau o dri ‘Cydymaith i’w gwylio’ yng Nghymru gan Chambers & Partners yn 2017.
Gyda enw da am waith adfywio a datblygu trefol, Darwin Gray wedi delio â llawer o adeiladau nodedig ledled De Cymru eleni gan gynnwys y Tramshed yng Nghaerdydd, y Pumphouse yn y Barri a'r Jennings ym Mhorthcawl, gan roi bywyd newydd i adeiladau rhestredig eiconig a'r cymunedau cyfagos.
Cynhelir Gwobrau Eiddo Insider Cymru ddydd Iau 29 Mehefin.