Llywodraeth yn dechrau mynd i'r afael â phroblemau yn yr economi gig
Gorffennaf 17, 2017
Comisiynwyd Adroddiad Taylor i ymchwilio i hawliau’r aelodau hynny o’r gweithlu nad ydynt yn “weithwyr” yn yr ystyr draddodiadol, gan gynnwys gweithwyr asiantaeth, contractwyr hunangyflogedig a’r rhai y mae eu statws cyflogaeth yn agored i anghydfod.
Mae’r Llywodraeth bellach wedi cytuno i ymgymryd â rhai o’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad, gan gynnwys:
Fodd bynnag, ni fu unrhyw gynigion ar gyfer ymdrin â'r ansicrwydd eang ynghylch diffiniadau hunangyflogaeth a statws gweithiwr neu gyflogai. Argymhellodd Adroddiad Taylor y dylai’r Senedd gynhyrchu deddfwriaeth newydd i glirio’r ansicrwydd hwn, ond yn lle hynny mae’r Llywodraeth wedi lansio ymgynghoriad newydd ar sut y gellid gwella’r gyfraith yn y maes hwn.
Mae hon yn debygol o fod yn broses hir a bydd yn golygu y bydd sawl blwyddyn cyn inni weld unrhyw newidiadau yn y gyfraith. Bydd hyn yn golygu y bydd mater statws cyflogaeth yn parhau i fod yn destun ymgyfreitha Tribiwnlys Cyflogaeth yn y cyfamser.
Os hoffech ragor o wybodaeth am hyn neu bwnc cysylltiedig, cysylltwch â'r tîm Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol.