Blog: Expo Masnachfraint Nawr 2018 – Siobhan Williams
Hydref 4, 2018
Gwnaethom ddal i fyny â chleientiaid presennol, a chyfarfod â llawer o bobl a oedd yn dymuno masnachfreinio eu busnesau o ystod o sectorau gan gynnwys bwyd a diod a gwasanaethau cynghori busnes. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol i’w helpu i dyfu eu busnes drwy’r model masnachfraint.
Ymhlith y siaradwyr ar y diwrnod oedd ein pennaeth masnachfreinio, Stephen Thompson, a roddodd sgwrs gyda llawer o awgrymiadau ymarferol ar gyfer darpar ddeiliaid rhyddfraint – ac yn benodol yr hyn y dylent ei wybod cyn prynu masnachfraint.
Cafwyd sgwrs wych gan Kieran James o gwmni cyfrifyddiaeth masnachfraint arbenigol Pay Keeper ar gyflawni eich nodau a gwneud i'ch cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith weithio i chi.
Os ydych yn ystyried masnachfreinio eich busnes, neu os ydych yn bwriadu prynu i mewn i fasnachfraint, cysylltwch â ni a byddem yn falch iawn o drafod sut y gallwn eich helpu.
- Siobhan Williams, Cydymaith