Gwahaniaethu ar sail oed – gwadwyd swydd y cyfwelai oherwydd ei oedran
Hydref 22, 2018
Ar ddyddiad y cyfweliad roedd yr ymgeisydd am swydd yn 67 oed. Roedd ganddo flynyddoedd o brofiad perthnasol ar gyfer y rôl ac roedd wedi cyrraedd y rhestr fer o blith 13 o ymgeiswyr. Fodd bynnag, yn y cyfweliad dywedodd un o’r cyfwelwyr ar y panel “Dwi newydd sylwi pa mor hen wyt ti” ac yna aeth yn mlaen i ofyn iddo am ei iechyd. Er ei fod yn un o'r ymgeiswyr cryfaf am y swydd, ni chynigiwyd y swydd i'r ymgeisydd. Penderfynodd y Tribiwnlys fod oedran yr ymgeisydd yn ffactor iddo gael ei wrthod ar gyfer y swydd a’i fod yn effeithio ar y penderfyniad cyffredinol, a oedd yn gyfystyr â gwahaniaethu ar sail oed ac a oedd yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae’r achos hwn yn pwysleisio’r risgiau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu os ydynt yn trin ymgeisydd am swydd yn llai ffafriol oherwydd ei oedran heb gyfiawnhad gwrthrychol – gan fod oedran yn un o’r naw “nodwedd warchodedig” o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Dylai cyflogwyr fod yn ymwybodol o’r canlynol er mwyn osgoi hawliadau gwahaniaethu ar sail oed wrth recriwtio a chyflogaeth:
1. Peidiwch â defnyddio oedran fel maen prawf yn eich proses recriwtio: er enghraifft, wrth hysbysebu am swydd, peidiwch â phennu ystod oedran a ffefrir ar gyfer y rôl na gofyn am rinweddau megis “egni ieuenctid”;
2. Dylai cwestiynau yn y cyfweliad swydd ganolbwyntio ar sgiliau a galluoedd yr ymgeisydd yn hytrach na'u hoedran;
3. Yn ystod cyflogaeth, peidiwch â rhoi triniaeth ffafriol megis datblygiad personol neu gyfleoedd hyfforddi i rywun ar sail eu hoedran, oni bai y gellir ei gyfiawnhau'n wrthrychol;
4. Peidiwch â'i gwneud yn orfodol i gyflogai ymddeol unwaith y bydd yn cyrraedd oedran penodol; mae oedrannau ymddeol gorfodol yn anghyfreithlon oni bai eu bod wedi'u cyfiawnhau'n wrthrychol, megis gan ofynion iechyd a diogelwch penodol; a
5. Sicrhau bod graddfeydd cyflog a buddion eraill yn gysylltiedig â sgiliau a phrofiad yn hytrach nag oedran.