Iechyd meddwl: eich staff a'ch tenantiaid
Rhagfyr 18, 2018
Roedd adroddiad a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ym mis Hydref yn amcangyfrif y bydd bron i 1 o bob 3 gweithiwr yn dioddef o salwch meddwl yn ystod eu gyrfaoedd; felly gyda dros 10,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan gymdeithasau tai ledled Cymru, nid yw’n syndod bod yna ymgyrch gynyddol i fynd i’r afael ag afiechyd meddwl yn y gweithle.
Fodd bynnag, fel darparwyr gwasanaethau, mae gan gymdeithasau tai hefyd ddyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb tuag at eu tenantiaid ac eraill sy'n defnyddio eu gwasanaethau.
Yn bwysig ddigon, mae hyn yn cynnwys dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i bethau sy’n rhoi cyflogeion a defnyddwyr gwasanaethau ag anabledd corfforol neu feddyliol dan anfantais oherwydd eu hanabledd.
Beth yw ystyr anabledd?
O dan adran 6 o’r Ddeddf Cydraddoldeb, mae anabledd yn golygu nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol ar allu rhywun i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Rhaid i’r nam hwn fod yn un hirdymor, sy’n golygu ei fod wedi para am o leiaf 12 mis neu’n debygol o bara mor hir â hynny.
Pa amddiffyniad sydd yn erbyn gwahaniaethu ar sail anabledd?
Mae gweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol, aflonyddu a niwed sy'n deillio o rywbeth sy'n gysylltiedig â'u hanableddau. Gellir mynd â sefydliadau sy'n torri'r darpariaethau gwrth-wahaniaethu hyn i lys neu Dribiwnlys Cyflogaeth a'u gorchymyn i dalu iawndal.
Gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer staff a thenantiaid anabl
Fel cyflogwr, dyletswydd cymdeithas dai yw nodi unrhyw bolisïau neu arferion a allai roi gweithwyr anabl dan anfantais arbennig, a gwneud addasiadau rhesymol i'r polisïau neu arferion hynny i geisio lliniaru hyn.
Fel darparwr nwyddau a gwasanaethau, mae’r prawf hwn hefyd yn berthnasol i denantiaid a chwsmeriaid cymdeithasau tai – ond mae’n mynd ymhellach fyth. Mae hyn oherwydd bod y ddyletswydd i wneud addasiadau yn berthnasol i bawb sydd eisiau defnyddio gwasanaethau'r gymdeithas dai – nid defnyddwyr gwasanaeth presennol yn unig. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i sefydliadau ragweld ymlaen llaw pa rai o'u polisïau a allai roi ymgeiswyr tai anabl o dan anfantais ar unrhyw adeg.
Mewn cyd-destun iechyd meddwl, gall fod yn anoddach cynllunio ar ei gyfer nag yn achos anableddau corfforol – yn enwedig oherwydd bod ystod eang iawn o gyflyrau iechyd meddwl a all gael effeithiau gwahanol ar wahanol unigolion.
Dylai sefydliadau felly:
Tynnu ar eu profiadau blaenorol o denantiaid â phroblemau iechyd meddwl wrth baratoi ac adolygu eu polisïau, gweithdrefnau, cytundebau tenantiaeth ac arferion bob dydd.
Ystyried gweithio gyda “hyrwyddwyr iechyd meddwl” tenantiaid a fydd yn cynrychioli buddiannau defnyddwyr gwasanaeth eraill ac yn helpu sefydliadau i ddeall pryd a sut y gall rhai polisïau roi defnyddwyr anabl o dan anfantais o gymharu ag eraill.
Sicrhau bod eu polisïau wedi’u hystyried yn drylwyr a’u bod yn ceisio cyngor proffesiynol ynghylch a ydynt yn debygol o fodloni rhwymedigaethau’r Ddeddf Cydraddoldeb.
Er mai y ddyledswydd yn unig yw gwneyd yr hyn sydd rhesymol, gall fod yn anodd gwybod ble mae'r sefyllfa hon ac fel arfer mae'n synhwyrol bod yn ofalus, gan y bydd y llysoedd yn craffu'n fanwl ar arferion sefydliadau o ran hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd. Mae llawer o sefydliadau yn dewis bod yn rhagweithiol a mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau statudol i gynorthwyo'r rhai sy'n dioddef o salwch meddwl.
Pam fod y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol mor bwysig?
Yn anffodus, gall materion iechyd meddwl gyfrannu at broblemau eraill i denantiaid, sydd hefyd yn effeithio ar eu landlordiaid. Er enghraifft, dangosodd ymchwil gan gymdeithasau tai yn Lloegr yn gynharach eleni fod traean o denantiaid ag ôl-ddyledion rhent yn dioddef o salwch meddwl, ond hefyd bod pwysau mynd drwy broses adfer a/neu achosion llys yn debygol o waethygu’r materion hyn. Mae hyn yn aml yn arwain at waethygu anghydfod a allai fod wedi cael ei atal neu ei liniaru trwy ddefnyddio polisïau rhagweithiol a chefnogol. Yn ogystal ag effeithiau personol sefyllfaoedd o'r fath ar yr unigolion, gall mynd i'r llys anghydfod gyda thenantiaid sy'n dioddef o salwch meddwl neu anableddau eraill fod yn gostus ac yn heriol i gymdeithasau tai. Mae angen ystyried yr heriau hyn o ddechrau'r berthynas.