Partïon Nadolig: sut y gall popeth fynd o chwith
Rhagfyr 19, 2018
Dangosodd arolwg diweddar fod 65% o weithwyr yn cyfaddef eu bod yn yfed gormod yn y parti Nadolig gwaith, gyda'r mwyafrif yn dweud bod hyn wedi cael effaith negyddol ar eu hymddygiad.
Mae angen i gyflogwyr gofio y gallant gael eu dal yn gyfrifol am ymddygiad eu gweithwyr mewn digwyddiadau o’r fath – o safbwynt cysylltiadau cyhoeddus ac mewn termau cyfreithiol. Yn anffodus, nid yw cynnal parti i ffwrdd o'r swydd o reidrwydd yn rhyddhau'r cyflogwr o'r atebolrwydd hwn. Yn yr achos diweddar o Bellman v Northampton Recruitment Limited, er enghraifft, gorchmynnwyd cyflogwr i dalu iawndal i weithiwr a ddioddefodd niwed i’r ymennydd ar ôl iddo gael ei ddyrnu gan y Rheolwr-gyfarwyddwr (a oedd yn feddw) mewn “ôl-barti” Nadolig gwaith mewn gwesty. Er na ddigwyddodd y digwyddiad yn y parti ei hun, barnwyd bod y cyflogwr yn atebol am weithredoedd y Rheolwr-gyfarwyddwr.
Cyn y parti:
E-bostiwch eich cyflogeion i’w hatgoffa na fydd camymddwyn a dwyn anfri ar eich sefydliad yn cael ei oddef, a gallant ddal i gael eu disgyblu am eu gweithredoedd hyd yn oed os ydynt yn digwydd y tu allan i’r gweithle.
Yn ystod y parti:
Gosodwch esiampl dda i'ch gweithwyr a byddwch ar eich ymddygiad gorau; mae hyn yn osgoi anfon negeseuon cymysg ar sut i ymddwyn.
Sicrhewch fod faint o alcohol a ddarperir gennych yn rhesymol; gall gormod o ddiod arwain at ymddygiad na ellir ei reoli, fel ymladd geiriol neu gorfforol. Os ydych yn awyddus bod eich gweithwyr yn dal i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gallech ystyried rhoi bonysau Nadolig neu amser ychwanegol i ffwrdd yn ystod cyfnod y gwyliau yn lle bar am ddim yn y parti.
Ar ôl y parti:
Os bydd pethau'n mynd o chwith a bod rhywun yn camymddwyn, gweithredwch yn gyflym ac yn gadarn. Os ydych chi eisoes wedi rhybuddio staff y gall ymddygiad gwael arwain at gamau disgyblu, dylech fod yn barod i ddilyn hyn i fyny i sicrhau bod y neges yn cael ei throsglwyddo ar gyfer parti'r flwyddyn nesaf.
Dylech hefyd fod yn gyson – os oes rhai tramgwyddwyr, dylech eu trin yn deg ac yn debyg i'ch gilydd er mwyn osgoi honiadau o ragfarn.