Cynghorau Llundain i ostwng trethi busnes i fusnesau sy'n talu “cyflog byw”
Medi 14, 2015
Cynghorau Brent a Greenwich yw’r cyntaf yn y wlad i gyhoeddi y byddan nhw’n cynnig ardrethi busnes gostyngol i gyflogwyr lleol sy’n ymuno â’r cynllun Cyflog Byw.
Yn Llundain, £9.15 yr awr yw’r Cyflog Byw – sef y swm y cyfrifwyd y bydd ei angen i dalu costau byw sylfaenol. Yng ngweddill y wlad mae'n £7.85 yr awr gan fod costau byw yn is. Mae hyn yn cael ei gymharu â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o £6.50, sef y swm y mae’n rhaid i gyflogwyr ei dalu i bobl dros 21 oed fel mater o gyfraith.
Mae’r Cyflog Byw yn gynllun gwirfoddol y gall cyflogwyr ymrwymo iddo, er ei fod yn cael ei gefnogi gan y prif bleidiau gwleidyddol a bu galwadau cynyddol iddo gael ei wneud yn orfodol. Mae cefnogwyr y cynllun yn dadlau y bydd o fudd i gyflogwyr yn ogystal â gweithwyr, wrth i weithluoedd ddod yn fwy cynhyrchiol ac absenoldeb a throsiant staff ostwng.
Ar 26 Ionawr, cyhoeddodd Cyngor Brent y byddai’n cynnig hyd at £5,000 oddi ar eu hardrethi busnes pe baent yn dod yn “Gyflogwr Cyflog Byw” achrededig a byddai hefyd yn “hyrwyddwr” y busnesau hyn ar ei wefan. Dilynodd Bwrdeistref Frenhinol Greenwich yr un peth ddeuddydd yn ddiweddarach trwy gadarnhau y byddai’n cynnig ad-daliad i’r 100 busnes lleol cyntaf i gofrestru yn 2015-16.
Bydd costau’r gostyngiadau’n cael eu rhannu rhwng y llywodraeth ganolog, Awdurdod Llundain Fwyaf a’r cynghorau eu hunain.
Ar hyn o bryd, mae 1,157 o gyflogwyr ledled y DU wedi’u hachredu â Chyflog Byw, ac mae dros draean ohonynt wedi’u lleoli yn Llundain. Dim ond 38 o gyflogwyr Cymru sydd wedi cofrestru; Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw'r unig gyngor yng Nghymru i fod yn Gyflogwr Cyflog Byw. Mae'n debygol felly y bydd peth amser cyn i fomentwm cynyddol y cynllun ledu y tu hwnt i Lundain.