Ehangu Eich Busnes Trwy Fasnachfreinio: Y Hanfodion
Mehefin 5, 2019
Ar hyn o bryd mae bron i 50,000 o fusnesau masnachfraint gyda’i gilydd yn cyfrannu dros £17bn a 710,000 o swyddi i economi’r wlad, yn ôl data gan Gymdeithas Masnachfraint Prydain a NatWest.
Os gellir masnachfreinio'ch busnes yn llwyddiannus, gallwch sefydlu rhwydwaith cenedlaethol (ac o bosibl rhyngwladol) o ddeiliaid masnachfraint, a bydd pob un ohonynt yn rhedeg yr un fersiynau o'ch busnes ac yn cynhyrchu incwm i chi.
Fodd bynnag, cyn i chi ddechrau gwario amser ac arian ar greu a sefydlu eich rhwydwaith masnachfraint dylech ofyn rhai cwestiynau sylfaenol i chi'ch hun yn gyntaf:
A allai fy musnes gael ei redeg gan berson arall, gyda naill ai hyfforddiant addas neu gymwysterau penodol?
A yw fy musnes yn rhydd o unrhyw gyfyngiadau daearyddol neu dymhorol?
A yw fy musnes mewn marchnad sefydlog neu farchnad sy'n tyfu?
Ydw i wedi “profi” fy model busnes?
Os mai “ydw” yw’r ateb i’r holl gwestiynau uchod, yna rydych wedi cymryd eich cam cyntaf tuag at sefydlu rhwydwaith masnachfraint llwyddiannus.
Mae llawer o fanteision i fasnachfreinio dros fathau eraill o dwf busnes, gan gynnwys:
Gofyniad cyfalaf is
Twf cyflymach
Allfeydd sy'n perfformio'n well
Llai o gyfrifoldeb rheoli
Fodd bynnag, fel pob llwybr i ehangu busnes, mae gan fasnachfreinio ei set unigryw ei hun o risgiau a heriau. Mae’n bwysig felly, cyn ichi ddechrau ymrwymo arian i sefydlu rhwydwaith masnachfraint, eich bod yn ymchwilio i’r sector mor drylwyr â phosibl a hefyd yn cymryd cyngor gan weithwyr proffesiynol profiadol.