Gwneud iawn i brynwyr cartrefi newydd

Gorffennaf 1, 2019

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad yn ceisio barn ar wneud iawn i brynwyr cartrefi newydd sy'n cael problemau gyda'r eiddo.

Daw’r ymgynghoriad wyth wythnos i ben ar 22 Awst 2019 ac mae’n ymdrin ag amrywiaeth o faterion gan gynnwys pwerau a gorfodi Ombwdsmon Cartrefi Newydd ac effeithiolrwydd Cod Ymarfer newydd arfaethedig ar gyfer datblygwyr cartrefi newydd.

Ombwdsmon Tai Newydd

Un o'r cynigion sy'n cael ei ystyried yw creu Ombwdsmon Cartrefi Newydd.

Rôl yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd fydd darparu iawn lle bo'n briodol i brynwyr lle mae cwynion yn cael eu hystyried fesul achos. Er y gall ombwdsmon helpu i ddatrys anghydfodau, cynnal cwynion ac argymell gwneud iawn (drwy iawndal fel arfer), nid oes ganddo’r awdurdod i gymryd camau rheoleiddiol neu gyfreithiol yn erbyn datblygwr eiddo. Mae'r Llywodraeth felly yn ceisio barn ar sut y bydd y gofyniad i berthyn i Ombwdsmon Cartrefi Newydd yn cael ei orfodi.

Cod Ymarfer

Er mwyn i Ombwdsmon Cartrefi Newydd weithredu'n effeithiol bydd angen set o safonau ac arferion clir y bydd yn dyfarnu yn eu herbyn. Gan gwmpasu meysydd fel ansawdd a safon y gwaith adeiladu, ôl-werthu ac unioni diffygion, y gofyniad i ddarparu gwarant a thryloywder ynghylch adneuon cadw, yn ogystal â moeseg ac ymddygiad, bydd y Llywodraeth yn archwilio sut y gallai un Cod Ymarfer arwain at ragor o system gwneud iawn effeithlon. Yn yr un modd â chreu Ombwdsmon Cartrefi Newydd, cynigir bod y Cod Ymarfer newydd hefyd yn cael ei ategu gan statud, cam a fyddai’n rhoi llawer mwy o ddannedd i’r system newydd.

Cwmpas

Gan fod y ddeddfwriaeth arfaethedig yn cynnwys materion datganoledig, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i barhau i ymgysylltu â’r gweinyddiaethau datganoledig gyda’r nod o geisio cytundeb ar gyflwyno deddfwriaeth y DU gyfan.

Mae rhagor o wybodaeth gan gynnwys canllawiau ar sut i ymateb i’r ymgynghoriad ar gael yma: http://bit.ly/Redress-new-build-homes

 

 

Darllen mwy

Cysylltwch â'n Tîm

I siarad ag un o'n harbenigwyr heddiw, cysylltwch â ni ar 02920 829 100 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni am sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut gallwn ni helpu.

Catherine Burke
Partner
Gweld Proffil
Damian Phillips
Partner
Gweld Proffil
Fflur Jones
Partner Rheoli
Gweld Proffil
Gareth Wedge
Partner
Gweld Proffil
Mark Rostron
Partner
Gweld Proffil
Nick O'Sullivan
Partner
Gweld Proffil
Oliver Morris
Partner
Gweld Proffil
Owen John
Partner
Gweld Proffil
Patrick Murphy
Partner
Gweld Proffil
Rachel Ford-Evans
Partner
Gweld Proffil
Siobhan Williams
Partner
Gweld Proffil
Siôn Fôn
Partner
Gweld Proffil
Stephen Thompson
Partner
Gweld Proffil

Yr hyn y mae ein cleientiaid wedi'i ddweud...