Sefydlu eich e-fasnach neu farchnad ar-lein eich hun? – Materion cyfreithiol allweddol

Awst 13, 2019

Yn ôl astudiaeth ddiweddar gan y darparwr taliadau rhyngrwyd Stripe, mae gwariant ym Mhrydain trwy farchnadoedd ar-lein fel Booking.com, Deliveroo ac Airbnb yn tyfu’n sylweddol flwyddyn ar ôl blwyddyn, wrth i fwy o bobl brynu a gwerthu cynnyrch dros y rhyngrwyd.

Mae siopwyr yn defnyddio'r rhyngrwyd ac apiau ffôn symudol yn gynyddol yn hytrach na delio'n uniongyrchol â manwerthwyr. Mae'r defnydd o farchnadoedd ar-lein yn dod â brandiau, siopau a bwytai ynghyd ac mae eu defnydd wedi cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Yr ydym oll wedi gweld dirywiad graddol y stryd fawr o blaid siopa ar y rhyngrwyd a ffonau symudol.

Os ydych yn bwriadu dechrau busnes marchnad ar-lein mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r ystod o faterion cyfreithiol a fydd yn effeithio ar eich busnes:

Cydymffurfiaeth gwefan

Dylai eich gwefan arddangos eich polisi preifatrwydd, a bydd angen iddo gydymffurfio â GDPR. Yn ogystal, bydd angen i'ch gwefan arddangos eich polisïau sy'n ymwneud â chwcis a hefyd defnydd derbyniol. Hefyd, os ydych yn caniatáu cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, yna dylech arddangos y polisi hwnnw hefyd.

GDPR

Bydd angen i chi fod yn ofalus ynghylch sut rydych yn casglu ac yn prosesu data personol, yn enwedig wrth werthu i ddefnyddwyr. Os ydych chi'n mynd ati i werthu i blant bydd angen i chi gymryd gofal arbennig. Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod gennych bolisïau mewnol priodol ar waith.

Diogelu defnyddwyr a gwerthu o bell

Mae gwerthu ar-lein i ddefnyddwyr yn golygu y byddwch yn destun ystod o gyfreithiau diogelu defnyddwyr. Bydd yn rhaid i chi arddangos gwybodaeth glir am brisio, ansawdd, ad-daliadau, cansladau a dychweliadau ar eich gwefan. Gall methu â chydymffurfio â chyfreithiau diogelu defnyddwyr arwain at hawliadau cyfreithiol, erlyniad a dirwyon.

Telerau gwerthu

Mae'n bwysig eich bod yn defnyddio telerau gwerthu sydd wedi'u drafftio'n broffesiynol wrth werthu nwyddau a gwasanaethau. Mae hyn nid yn unig i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â chyfreithiau diogelu defnyddwyr, ond hefyd i ddiogelu eich busnes os cewch eich erlyn gan gwsmer. Dylai eich telerau gwerthu gynnwys cyfyngiadau priodol ar atebolrwydd a hefyd ymwadiadau. Bydd y ddau o'r rhain yn lleihau risg eich busnes yn sylweddol.

Eiddo deallusol

Mae’n debygol bod nifer o bobl wedi bod yn rhan o ddatblygiad eich busnes. Gall y rhain gynnwys datblygwyr gwe, ymgynghorwyr marchnata, ysgrifenwyr copi a'ch cyflogeion eich hun. Mae’n bosibl iawn bod pob un o’r bobl hynny wedi creu hawliau eiddo deallusol (IPR) sy’n cael eu defnyddio yn eich busnes. Byddwch am sicrhau na fydd yr un ohonynt yn cadw hawliau perchnogaeth i’r IPR hwnnw.

Marchnata

Bydd angen i farchnata ar-lein gydymffurfio â GDPR a bydd angen i chi sicrhau eich bod yn deall eich hawliau a'ch rhwymedigaethau cyfreithiol yn y maes hwn.

 

 

Darllen mwy

Cysylltwch â'n Tîm

I siarad ag un o'n harbenigwyr heddiw, cysylltwch â ni ar 02920 829 100 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni am sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut gallwn ni helpu.

Catherine Burke
Partner
Gweld Proffil
Damian Phillips
Partner
Gweld Proffil
Fflur Jones
Partner Rheoli
Gweld Proffil
Gareth Wedge
Partner
Gweld Proffil
Mark Rostron
Partner
Gweld Proffil
Nick O'Sullivan
Partner
Gweld Proffil
Oliver Morris
Partner
Gweld Proffil
Owen John
Partner
Gweld Proffil
Patrick Murphy
Partner
Gweld Proffil
Rachel Ford-Evans
Partner
Gweld Proffil
Siobhan Williams
Partner
Gweld Proffil
Siôn Fôn
Partner
Gweld Proffil
Stephen Thompson
Partner
Gweld Proffil

Yr hyn y mae ein cleientiaid wedi'i ddweud...