2019 – beth i’w ddisgwyl mewn cyfraith cyflogaeth
Ionawr 24, 2019
1. Rheolau mewnfudo newydd ar ôl Brexit:
Ni waeth a gyrhaeddir bargen ai peidio, mae’r rheolau mewn perthynas â chyflogi dinasyddion yr UE sy’n gweithio yn y DU yn debygol o newid. Bydd rhyddid i symud yn dod i ben unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE; er nad yw manylion yr hyn a fydd yn digwydd yn y maes hwn wedi’u pennu’n derfynol eto, dylai cyflogwyr wybod, os ydynt am gyflogi gwladolion yr UE, y bydd cyfyngiadau tebyg i’r rhai sydd ar waith ar gyfer gwladolion nad ydynt o’r UE. Dylai cyflogwyr baratoi drwy adolygu eu polisïau recriwtio a chadw presennol a'u haddasu os oes angen.
2. Cytundebau peidio â datgelu a chymalau cyfrinachedd:
Ym mis Tachwedd 2018, lansiwyd ymchwiliad gan y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldebau i’r defnydd a’r posibilrwydd o wahardd neu gyfyngu ar gytundebau peidio â datgelu neu “NDAs”. Daliodd y pwnc hwn lawer o sylw yn y cyfryngau y llynedd, yn enwedig mewn perthynas â defnyddio “gorchmynion gagio” mewn hawliadau aflonyddu rhywiol yn y gweithle, y gwnaethom adrodd arnynt y llynedd (cysylltu â'r erthygl). Disgwylir y bydd hyn yn arwain at gyfyngiad ar y defnydd o NDAs a chymalau cyfrinachedd yn y misoedd nesaf.
3. Cod ymarfer statudol ar aflonyddu rhywiol:
Ym mis Rhagfyr 2018, cyhoeddodd y Llywodraeth 12 pwynt gweithredu i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, gan gynnwys cynnig i ddatblygu cod ymarfer statudol (yn debyg i God Ymarfer ACAS ar faterion disgyblu a chwyno) ar aflonyddu rhywiol. Byddai hyn yn cynorthwyo cyflogwyr i ddangos eu bod wedi cymryd camau rhesymol i atal aflonyddu yn y gweithle ac felly yn eu helpu i osgoi atebolrwydd am unrhyw weithredoedd o aflonyddu gan eu gweithwyr. Mae disgwyl i god drafft gael ei gyhoeddi maes o law.
4. Cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol ac ymgynghori:
O 6 Ebrill 2019, bydd y cyfraddau’n cynyddu i £8.21 yr awr ar gyfer gweithwyr 25 oed a hŷn; £7.70 yr awr ar gyfer pobl ifanc 21-24 oed; £6.15 yr awr ar gyfer pobl ifanc 18-20 oed; £4.35 yr awr i rai dan 18 oed; a £3.90 yr awr i brentisiaid.
Hefyd, ym mis Rhagfyr 2018 cychwynnodd y Llywodraeth ymgynghoriad ar yr isafswm cyflog cenedlaethol ac mae’n ceisio barn ynghylch a yw cynlluniau aberthu cyflog ac oriau gwaith cyflogedig yn cosbi cyflogwyr yn anfwriadol. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 1 Mawrth 2019 ac efallai y bydd gan gyflogwyr ddiddordeb yng nghanfyddiadau’r ymgynghoriad a sut y gallai effeithio ar eu harferion talu gweithwyr.
5. Cynnydd posibl ar derfynau amser ar gyfer hawliadau Tribiwnlys Cyflogaeth:
Wedi’i lansio ym mis Medi 2018, daeth ymgynghoriad ar ddiwygio’r Tribiwnlys Cyflogaeth i ben ar 11 Ionawr 2019. Un o’r materion allweddol a godwyd oedd a yw’r terfyn amser o 3 mis i weithiwr ddwyn hawliad Tribiwnlys Cyflogaeth (e.e. ar ôl diswyddo neu weithred o wahaniaethu) dylid ei newid i 6 mis. Dylai cyflogwyr gadw llygad am ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, oherwydd os cynyddir y cyfnod cyfyngu mae hyn yn debygol o arwain at gynnydd sylweddol yn nifer yr hawliadau a gyflwynir.
6. Posibilrwydd ailgyflwyno ffioedd Tribiwnlys Cyflogaeth:
Tua diwedd 2018, cadarnhaodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ei bod yn ystyried ailgyflwyno ffioedd ar gyfer hawliadau Tribiwnlys Cyflogaeth.cysylltu â'r erthygl). Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder bellach wedi awgrymu y gallai trefn ffioedd newydd fod yn cael ei datblygu, a fyddai’n anelu at sicrhau cydbwysedd rhwng mynediad at gyfiawnder a mwy o gyllid i’r Tribiwnlys Cyflogaeth. Efallai y bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yn y flwyddyn i ddod; os felly, gallai hyn leihau’n sylweddol nifer yr hawliadau Tribiwnlys Cyflogaeth a gyflwynir yn erbyn cyflogwyr, a gynyddodd 165% ar ôl i ffioedd gael eu dileu ym mis Gorffennaf 2017.
7. Slipiau cyflog eitemedig:
O 6 Ebrill 2019, bydd gan gyflogwyr ddyletswydd i ddarparu slipiau cyflog wedi’u heitemeiddio i weithwyr, yn ogystal â gweithwyr.
8. Achosion cyfraith cyflogaeth allweddol:
Ym mis Ionawr 2019, bydd y Llys Apêl yn gwrando ar yr achos Agoreyo v Bwrdeistref Lambeth yn Llundain. Bydd yn ystyried a oedd atal athro dros dro er mwyn cynnal ymchwiliad teg yn dor-cytundeb ymwrthodol gan y cyflogwr, ac felly yn ddiswyddiad annheg deongliadol. Mae'r achos hwn yn tanlinellu pwysigrwydd peidio â gwahardd atal dros dro fel ymateb diofyn cyflogwr i ddigwyddiad, a pham y dylai cyflogwr fod yn ofalus iawn wrth ystyried a ddylai atal cyflogai dros dro mewn perthynas â honiad o gamymddwyn.
Hefyd, bydd y Goruchaf Lys yn gwrando ar yr apêl derfynol yn achos Uber v Aslam a dod i benderfyniad a yw gyrwyr Uber yn hunangyflogedig neu'n weithwyr. Os canfyddir eu bod yn weithwyr, bydd ganddynt yr hawl i wyliau blynyddol â thâl, i dderbyn yr isafswm cyflog cenedlaethol, ac amddiffyniad rhag didyniad anghyfreithlon o gyflogau. Mae disgwyl yn eiddgar am ganlyniad terfynol yr achos hwn oherwydd bydd yn effeithio ar fusnesau a gweithwyr economi gig ledled y DU.
Byddwn yn adrodd ar unrhyw ddiweddariadau pwysig wrth iddynt ddigwydd trwy gydol y flwyddyn.