Coronafeirws – canllaw cyfredol i gyflogwyr

Mawrth 18, 2020

Mae achosion o coronafeirws (COVID-19) yn parhau i gynyddu ac mae’r risg i’r DU wedi’i godi i uchel.

Yn ystod y cyfnod digynsail hwn mae angen i gyflogwyr wybod beth i'w wneud mewn perthynas ag absenoldeb gweithwyr, y rhesymau gwahanol drosto, ac a ddylent gael eu talu yn ystod yr amser nad ydynt yn gweithio neu'n bresennol yn y gwaith.

Gall sïon a dyfalu ysgogi pryder, felly mae’n bwysig bod sefydliadau’n cyfathrebu’n effeithiol â’u gweithwyr i’w cadw’n dawel, darparu gwybodaeth o ansawdd da, a gosod canllawiau clir o’r hyn y gallant ac na allant ei wneud yn ystod y cyfnod dryslyd ac anodd hwn.

Rydym wedi llunio’r Holi ac Ateb isod i fynd i’r afael â chwestiynau pwysig a allai fod gennych am eich gweithlu:

O dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid i gyflogwyr dalu Tâl Salwch Statudol (SSP) i weithwyr?

Mae SSP yn daladwy i weithwyr sy'n absennol o'r gwaith oherwydd analluogrwydd. Cyflwynodd y llywodraeth ddeddfwriaeth frys dros dro yn nodi bod person yn cael ei ystyried yn analluog i weithio lle y mae “ynysu eu hunain oddi wrth bobl eraill mewn modd sy’n atal haint neu halogiad â chlefyd coronafeirws, yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, Gwasanaethau Cenedlaethol GIG yr Alban neu Iechyd Cyhoeddus Cymru ac sy’n dod i rym ar 12 Mawrth 2020”. Mae hyn yn golygu yn y rhan fwyaf o achosion y bydd cyflogai sydd mewn cwarantîn neu’n hunanynysu oherwydd COVID-19 (ac nad yw’n gweithio gartref) yn cael ei drin fel un sy’n analluog i weithio at ddibenion SSP.

O dan yr amgylchiadau hyn bydd SSP yn daladwy i weithwyr o ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb salwch yn hytrach na'r pedwerydd diwrnod. Bydd cyflogwyr bach sydd â llai na 250 o weithwyr yn cael eu had-dalu am unrhyw SSP a delir i weithwyr mewn perthynas â’r 14 diwrnod cyntaf o salwch sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws.

Dylai cyflogwyr hefyd wirio eu contractau cyflogaeth a pholisïau absenoldeb salwch i weld a oes gan eu gweithwyr hawl i unrhyw dâl salwch cytundebol yn ychwanegol at SSP.

A all cyflogwyr anfon gweithwyr adref o'r gwaith i hunan-ynysu?

Os ydych yn amau’n rhesymol bod cyflogai wedi bod yn agored i COVID-19, gallwch anfon cyflogai adref o’r gwaith i hunanynysu nes bod y risg wedi mynd heibio oherwydd bod gennych ddyletswydd i ddiogelu iechyd a diogelwch gweithwyr eraill.

Os gorchmynnir gweithiwr i hunan-ynysu neu roi cwarantîn ond nad yw'n sâl, a all ei gyflogwr ofyn iddo barhau i weithio gartref?

Os oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogai i gadw draw o’r gweithle, ond ei fod yn ddigon iach a bod ganddo’r cyfleusterau i weithio o’r lleoliad cwarantîn, yna nid oes problem gyda gofyn iddynt barhau i weithio gartref.

A ddylai cyflogai gael ei dalu os yw'n sownd dramor yn dilyn gwyliau?

Os yw gweithiwr yn sownd dramor oherwydd ei fod wedi contractio COVID-19 a naill ai na chaniateir iddo deithio neu’n rhy sâl i wneud hynny, yna dylech ei drin fel rhywun sydd ar absenoldeb salwch o ran tâl. Bydd hawl gan y gweithiwr hefyd i gymryd gwyliau blynyddol os yw'n well ganddo wneud hynny (cyn belled â bod ganddo ddigon o wyliau ar ôl ar gyfer eich blwyddyn wyliau gyfredol), ond ni allwch ei orfodi i wneud hynny.

Os na all y gweithiwr deithio adref oherwydd ei fod yn destun cyfyngiadau symud neu arwahanrwydd rhagofalus ac yn methu â chael mynediad at gludiant, bydd ei hawl i dâl yn dibynnu ar a all barhau i weithio, ac os nad yw a yw’n synhwyrol eu trin fel rhai sydd ar absenoldeb salwch. .

A all cyflogwyr fynnu bod cyflogeion yn defnyddio eu hawl i wyliau ar gyfer cyfnodau o absenoldeb?

Mae’n bosibl y byddai’n well gan eich cyflogeion gymryd gwyliau blynyddol lle byddai ganddynt fel arall hawl i SSP neu ddim tâl o gwbl. Mae ganddynt hawl i gymryd gwyliau blynyddol statudol yn ystod absenoldeb salwch ond ni allwch eu gorfodi i wneud hynny. Fodd bynnag, ar gyfer cyflogeion nad ydynt ar absenoldeb salwch gallwch eu cyfarwyddo i gymryd gwyliau blynyddol statudol (cyn belled â bod ganddynt ddigon o wyliau ar ôl ar gyfer eich blwyddyn wyliau) ar yr amod eich bod yn rhoi’r lefel ofynnol o rybudd iddynt – o leiaf ddwywaith hyd y cyfnod o absenoldeb yr ydych yn rhoi cyfarwyddyd i’ch cyflogeion ei gymryd.

Darllen mwy

Cysylltwch â'n Tîm

I siarad ag un o'n harbenigwyr heddiw, cysylltwch â ni ar 02920 829 100 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni am sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut gallwn ni helpu.

Catherine Burke
Partner
Gweld Proffil
Damian Phillips
Partner
Gweld Proffil
Fflur Jones
Partner Rheoli
Gweld Proffil
Gareth Wedge
Partner
Gweld Proffil
Mark Rostron
Partner
Gweld Proffil
Nick O'Sullivan
Partner
Gweld Proffil
Oliver Morris
Partner
Gweld Proffil
Owen John
Partner
Gweld Proffil
Patrick Murphy
Partner
Gweld Proffil
Rachel Ford-Evans
Partner
Gweld Proffil
Siobhan Williams
Partner
Gweld Proffil
Siôn Fôn
Partner
Gweld Proffil
Stephen Thompson
Partner
Gweld Proffil

Yr hyn y mae ein cleientiaid wedi'i ddweud...