Coronafeirws – pa hawliau sydd gan fy ngweithwyr nawr bod yr ysgolion yn cau?
Mawrth 18, 2020
Tra bod penaethiaid yn croesawu’r newyddion yma, wrth i staff alw i mewn yn sâl a rhai rhieni wedi rhoi’r gorau i anfon eu plant i’r ysgol, mae yna bryderon na fydd rhai gweithwyr yn gallu aros yn y gwaith os nad yw eu plant yn yr ysgol.
Fel cyflogwr, efallai y byddwch am gymryd agwedd hyblyg a chaniatáu i'r gweithwyr hyn weithio gartref, os yw hyn yn bosibl, o amgylch eu cyfrifoldebau gofal plant. Efallai na fydd gweithwyr gyda phlant ifanc iawn sydd angen sylw cyson yn gallu gweithio eu holl oriau gwaith arferol. Fodd bynnag, efallai y gallant rannu'r gofal plant gyda'r rhiant arall fel y gallant barhau i weithio'n rhan amser.
Gall gweithwyr hefyd fynnu eu hawl statudol i amser i ffwrdd i ofalu am ddibynnydd. Mae’r amser hwn i ffwrdd yn ddi-dâl fel arfer, ond efallai y byddwch am wirio a oes hawl cytundebol i dâl o dan yr amgylchiadau hyn.
Gan nad oes unrhyw wybodaeth am ba mor hir y gallai cau ysgolion bara, efallai y byddai’n well gan weithwyr wneud rhyw fath o waith rhwng eu cyfrifoldebau gofal plant yn hytrach na gofyn am amser i ffwrdd heb dâl i ofalu am ddibynyddion. Yn ystod yr amseroedd digynsail hyn, efallai y bydd yn fuddiol i chi fod yn hyblyg er mwyn caniatáu i gynifer o weithwyr â phosibl barhau i weithio.