Cyfreithiwr o Gymru ar y Rhestr Fer ar gyfer Gwobr Masnachfreinio DU gyfan

Mawrth 30, 2020

Stephen Thompson, Partner Rheoli a Phennaeth Masnachfreinio yn y cwmni cyfreithiol masnachol yng Nghaerdydd Darwin Gray wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Darparwr Gwasanaeth y Flwyddyn yng Ngwobrau Annog Menywod i Fasnachfreinio (EWIF) 2020 ledled y DU.

Sefydliad nid-er-elw yw EWIF sy’n canolbwyntio ar gefnogi menywod yn y diwydiant masnachfreinio ar draws ei chwe rhanbarth yn y DU. Stephen yw Cadeirydd Rhanbarthol De-orllewin a Chymru EWIF, gan hwyluso cyfarfodydd aelodau chwarterol yng Nghaerdydd a Bryste.

Dywedodd Stephen: “Rwy’n falch iawn o fod ar restr fer Gwobrau Darparwr Gwasanaeth y Flwyddyn EWIF 2020. Rwy’n falch o fod yn rhan o rwydwaith mor bwysig, sy’n cefnogi menywod yn y sector masnachfreinio ledled y DU. Fel cadeirydd rhanbarthol cangen De Orllewin a Chymru, rwyf i a’m cydweithwyr yn mwynhau bod yn rhan o’r ymgysylltu a’r gwaith cydweithredol cynyddol ar draws rhwydwaith cyfan EWIF.

“Mae masnachfreinio yn dod yn ddull cynyddol boblogaidd ar gyfer twf busnes. Rwy’n gweithio gyda llawer o gleientiaid masnachfraint, yn fasnachfreintiau ac yn ddeiliaid masnachfraint, gan helpu i ychwanegu gwerth at eu busnesau a dod o hyd i’r llwybr gorau i’r farchnad iddynt”.

Mae Gwobrau EWIF 2020 i’w cynnal ar 1 Mehefin yn Llundain, lle bydd y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol ac aelodau o bob rhan o’r DU yn dathlu llwyddiannau anhygoel yn y diwydiant masnachfreinio.

Am restr lawn o rownd derfynol Gwobrau EWIF 2020, ewch i https://www.ewif.org/ewif-2020-finalists-announced/

Darllen mwy

Cysylltwch â'n Tîm

I siarad ag un o'n harbenigwyr heddiw, cysylltwch â ni ar 02920 829 100 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni am sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut gallwn ni helpu.

Catherine Burke
Partner
Gweld Proffil
Damian Phillips
Partner
Gweld Proffil
Fflur Jones
Partner Rheoli
Gweld Proffil
Gareth Wedge
Partner
Gweld Proffil
Mark Rostron
Partner
Gweld Proffil
Nick O'Sullivan
Partner
Gweld Proffil
Oliver Morris
Partner
Gweld Proffil
Owen John
Partner
Gweld Proffil
Patrick Murphy
Partner
Gweld Proffil
Rachel Ford-Evans
Partner
Gweld Proffil
Siobhan Williams
Partner
Gweld Proffil
Siôn Fôn
Partner
Gweld Proffil
Stephen Thompson
Partner
Gweld Proffil

Yr hyn y mae ein cleientiaid wedi'i ddweud...