Rheoliadau Pellhau Cymdeithasol yn y Gweithle Coronafeirws Newydd
Ebrill 6, 2020
Bydd y rheoliadau newydd yn golygu y bydd y rheol pellter cymdeithasol dau fetr yn berthnasol i unrhyw weithle, gan gynnwys cartrefi, a mannau awyr agored. Disgwylir i bob busnes sicrhau bod y rheol dau fetr yn cael ei chynnal rhwng eu gweithwyr a bod cyflogwyr yn cymryd pob cam rhesymol sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â'r rheol.
Mae’r rheoliad hwn yn pwysleisio ymhellach yr alwad ar fusnesau a chyflogwyr i gynnal eu dyletswydd gofal i’w gweithwyr, gan roi eu hiechyd a’u lles ar frig eu hagenda.
Rydym yn dal i aros am ganllawiau i egluro beth yn union y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl gan gyflogwyr a busnesau yn dilyn gorfodi’r rheol newydd.
Bydd y canllawiau newydd, ochr yn ochr â’r rheoliadau, hefyd yn egluro’r trefniadau ar gyfer angladdau ac amlosgfeydd. Mae’n ymddangos y bydd pobl yn dal i gael mynychu angladdau ar yr amod mai nhw yw’r person sydd wedi trefnu’r angladd, eu bod wedi cael gwahoddiad i fynychu’r angladd, neu eu bod yn ofalwr i berson sy’n mynychu’r angladd. Fodd bynnag, bydd cyfyngiad ar nifer y bobl a all fynychu seremonïau o'r fath, gan gymryd i ystyriaeth maint y lleoliad a'r rheol dau fetr.
Byddwn yn diweddaru ein tudalennau newyddion yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth a'r gobaith yw y bydd mwy o eglurhad yn cael ei gyhoeddi.