Cadarnhawyd amserlen Ebrill i gyflogwyr hawlio taliadau ffyrlo
Ebrill 9, 2020
Y nod yw talu cyflogwyr o fewn 4 i 6 diwrnod gwaith ar ôl iddynt gyflwyno eu hawliad. Yna dylai cyflogwyr sy’n talu eu staff yn fisol allu hawlio’r arian yn ôl gan CThEM 14 diwrnod cyn y byddai gweithwyr yn disgwyl cael eu talu.
Disgwylir hefyd y bydd canllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir i gynorthwyo cyflogwyr i gyflwyno eu hawliadau unwaith y bydd y porth yn fyw.
Mae diweddariadau a chanllawiau ychwanegol mewn perthynas â CJRS a ffyrlo yn cynnwys:
Ni ellir defnyddio difidendau cyfarwyddwyr wrth gyfrifo tâl ffyrlo;
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynllun i ymestyn y cynllun i'r rhai y mae eu horiau gwaith wedi'u lleihau oherwydd yr achosion o COVID-19;
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynllun i helpu’r rhai a ddechreuodd swydd newydd ar ôl 28 Chwefror 2020*, ac nid yw eu cyflogwr blaenorol yn cytuno i’w hailgyflogi na’u rhoi ar ffyrlo; a
Ni fydd y system yn gallu delio â thaliadau mewn ewros, a bydd CThEM yn rhoi arweiniad pellach i gyflogwyr a allai gael eu heffeithio gan hyn.
Ar gyfer gweithwyr hunangyflogedig, mae CThEM yn gweithio i nodi a chysylltu â gweithwyr hunangyflogedig a all wneud hawliad o dan y Cynllun Diogelu Incwm Hunangyflogedig (SEISS). Amcangyfrifir y bydd hyn wedi'i gwblhau erbyn canol mis Mai 2020 a gallai gynnwys hyd at 3.8 miliwn o unigolion. Mae CThEM yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud y taliadau o dan y cynllun erbyn dechrau mis Mehefin 2020, ond os yn bosibl, bydd yn gwneud hynny’n gynt.
*Ar 15 Ebrill 2020, newidiodd y dyddiad cymhwyso o 28 Chwefror i 19 Mawrth 2020.