Diogelu'ch busnes ar gyfer y dyfodol ar gyfer byd ôl-bandemig

Ebrill 27, 2020

Bydd effeithiau COVID-19 yn ddwys, ac yn ddi-os yn cael eu teimlo gan filiynau o fusnesau. Credir yn eang bod y byd yn anelu at ddirwasgiad economaidd. Felly mae'n bwysicach nag erioed i fusnesau gael cynlluniau a strategaethau hirdymor ar waith ar gyfer bywyd ar ôl y pandemig.

Hyd yn oed os yw’ch gweithle ar gau ar hyn o bryd, neu os yw’ch cyflogeion yn gweithio gartref, yn cael budd o absenoldeb ffyrlo neu wedi cael eu diswyddo, mae camau y gallwch eu cymryd nawr a fydd o fudd i chi mewn amser i ddod:

Aseswch eich busnes

Aseswch eich busnes a'ch sefyllfa bresennol, ac adolygwch eich cryfderau a'ch gwendidau. Canolbwyntiwch ar y cryfderau hyn a gweithiwch ar eich gwendidau fel tîm, adran, a busnes yn ei gyfanrwydd.

Casglu a storio gwybodaeth a chudd-wybodaeth

Mae'n bwysig casglu, nodi a blaenoriaethu gwybodaeth sydd gennych am eich busnes, yn ogystal â rhai eich cleientiaid a'ch cwsmeriaid. Bydd hyn yn eich galluogi i ystyried sut y gallwch wasanaethu'ch cwsmeriaid yn well, gweithio'n fwy effeithlon trwy ddefnyddio'ch ffynonellau gwybodaeth mewn modd ymarferol, a mabwysiadu ymagwedd â mwy o ffocws at y gwasanaethau y gallwch eu darparu.

Dadansoddwch eich cystadleuwyr

Cadwch lygad ar eich cystadleuwyr. Adolygwch pwy sy'n ymddangos fel pe baent yn llwyddo, a'r rhai sy'n edrych fel eu bod yn methu. Ystyriwch pa gamau y maent yn eu cymryd, neu pa gamau y methodd eu cymryd, a dadansoddwch sut y gall eich busnes ffynnu drwy ddysgu o fethiannau pobl eraill.

Adnabod heriau

Nodwch yr heriau y gall, neu y bydd, eich busnes yn eu hwynebu yn y dyfodol agos. Rhagweld gwahanol senarios ac ystyried pob maes amhariad ac anhawster posibl o gadwyni cyflenwi, cystadleuaeth, gweithwyr, defnyddwyr, cwsmeriaid, cleientiaid, a'r farchnad gyffredinol. Cynlluniwch atebion yn erbyn pob senario posibl, gan gynnwys y gwaethaf y gallwch chi ei ddychmygu. Mae’n amhosibl rhagweld sut y bydd yr economi yn ymateb ar ôl y pandemig, ond nawr yw’r amser i baratoi er mwyn bod yn barod i wynebu unrhyw heriau y gallai eich busnes eu hwynebu.

Blaenoriaethu canlyniadau, a chynllunio ar gyfer twf

Mae’n bwysig bod yn glir gyda staff am y canlyniadau a ddisgwylir ganddynt, yn ogystal â gosod targedau â ffocws ar gyfer y busnes. Drwy ganolbwyntio ar ganlyniadau, gall busnesau addasu’r ffordd y maent yn cynllunio, blaenoriaethu, mesur ac adrodd ar eu methiannau a’u llwyddiannau. Ail-werthuso eich prosesau, gweithrediadau a llwyfannau ac ystyried beth oedd yn gweithio a beth nad oedd yn gweithio. Dysgwch o'ch camgymeriadau, a chynlluniwch i osgoi rhai tebyg yn y dyfodol.

Canolbwyntiwch ar lif arian

Dewch â'ch busnes yn ôl at ei elfennau sylfaenol o lwyddiant. Unwaith y byddwch wedi drafftio cyllideb addas sy’n ystyried pwysau a straen yr economi ôl-COVID-19, gweithiwch o fewn y gyllideb newydd honno. Sicrhewch fod gan gyfrifon banc eich busnes ddigon o hylifedd, gyda chyfleusterau gorddrafft yn eu lle lle bo angen. Dylai pob busnes wneud rhagolygon llif arian yn ogystal ag adolygu rhagamcanion llif arian bob wythnos. Mae’n bwysig edrych ymlaen dri mis i’r dyfodol, a bod yn ymwybodol o unrhyw daliadau treth neu TAW neu ffioedd sy’n ddyledus. Cofiwch geisio cyngor ariannol neu gyfreithiol os nad oes gan eich busnes sgiliau arbenigol yn y meysydd hyn.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn cynnig pecyn o atebion tymor byr a allai sefydlogi llif arian am gyfnod o amser. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma:

https://www.gov.uk/government/collections/financial-support-for-businesses-during-coronavirus-covid-19

 

 

Darllen mwy

Cysylltwch â'n Tîm

I siarad ag un o'n harbenigwyr heddiw, cysylltwch â ni ar 02920 829 100 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni am sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut gallwn ni helpu.

Catherine Burke
Partner
Gweld Proffil
Damian Phillips
Partner
Gweld Proffil
Fflur Jones
Partner Rheoli
Gweld Proffil
Gareth Wedge
Partner
Gweld Proffil
Mark Rostron
Partner
Gweld Proffil
Nick O'Sullivan
Partner
Gweld Proffil
Oliver Morris
Partner
Gweld Proffil
Owen John
Partner
Gweld Proffil
Patrick Murphy
Partner
Gweld Proffil
Rachel Ford-Evans
Partner
Gweld Proffil
Siobhan Williams
Partner
Gweld Proffil
Siôn Fôn
Partner
Gweld Proffil
Stephen Thompson
Partner
Gweld Proffil

Yr hyn y mae ein cleientiaid wedi'i ddweud...