COVID-19: Opsiynau Landlord ar gyfer Peidio â Thalu Prydlesi Masnachol

Mai 4, 2020

Cyflwynwyd Deddf Coronafeirws 2020 ym mis Mawrth 2020 mewn ymateb i’r achosion feirws byd-eang. Yn gynwysedig yn y ddeddfwriaeth mae amddiffyn tenantiaid masnachol rhag i landlordiaid fforffedu les.

Beth yw effaith Deddf Coronafeirws 2020 ar hawl landlord i fforffedu les? 

Yn hanesyddol, yr hawl i fforffedu yw'r arf mwyaf pwerus yn arfogaeth unrhyw Landlord. Fodd bynnag, o dan Ddeddf Coronafeirws, nid oes gan landlord hawl i arfer yr hawl i ailfynediad a fforffediad am beidio â thalu rhent o 26 Mawrth tan 30 Mehefin 2020 (gyda phosibilrwydd am estyniad).

Dylid nodi bod “rhent” yn cynnwys unrhyw swm y mae tenant yn atebol i'w dalu o dan y brydles megis taliadau gwasanaeth, rhent yswiriant a chyfleustodau ac ati.

A yw'r rhent yn dal yn daladwy gan denantiaid?

Oes, mae rhent yn dal yn daladwy yn ystod y cyfnod perthnasol a bydd llog yn dal i gronni ar unrhyw daliadau hwyr.

Unwaith y daw’r cyfnod gohirio i ben, os oes hawl mynediad wedi codi yn ystod y cyfnod hwnnw yna bydd y landlord yn gallu cymryd camau i fforffedu’r brydles.

Beth i'w wneud os bydd tenant yn methu â thalu rhent?

Yn y pen draw, bydd angen i landlordiaid asesu pob sefyllfa yn yr hinsawdd bresennol ac ystyried a allant weithio i helpu eu tenant drwy’r cyfnod hwn neu orfodi eu hawliau fel sy’n briodol. Mae'n bwysig bod landlordiaid a thenantiaid yn cael eu cynghori'n briodol yn ystod y cyfnod hwn a bod unrhyw gytundeb yn cael ei ddogfennu.

Pa opsiynau eraill sydd ar gael i landlordiaid lle mae tenant yn methu â thalu rhent?  

Mae diweddariadau deddfwriaethol diweddar wedi golygu bod opsiynau landlordiaid pan fyddant yn wynebu diffyg talu rhent yn amrywio:

  • Bydd galwadau statudol a anfonir at denantiaid masnachol yn ddi-rym dros dro tan 30 Mehefin 2020.

  • Nid yw cyflwyno deiseb dirwyn i ben wedi’i wahardd ond rhaid i unrhyw ddeiseb sy’n honni nad yw tenant masnachol yn gallu talu ei ddyledion gael ei hadolygu gan y Llys i benderfynu a yw’r toriad o ganlyniad i COVID-19.

  • Mae adennill ôl-ddyledion rhent masnachol (CRAR) yn parhau i fod ar gael, fodd bynnag, dylid nodi bod y Llywodraeth wedi darparu mwy o le i anadlu i denantiaid gan na ellir defnyddio'r dull hwn oni bai bod gan y tenant ddyled o 90 diwrnod o rent.

  • Mae cyflwyno hawliad Llys yn y Llys Sirol yn parhau i fod heb ei effeithio i raddau helaeth, fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o Lysoedd ar ei hôl hi'n ddifrifol ac mae ganddynt ôl-groniad o achosion.

Bydd landlordiaid hefyd am adolygu unrhyw gytundebau gwarant, cytundebau aseinio a blaendaliadau rhent i ddeall eu holl opsiynau.

 

 

Darllen mwy

Cysylltwch â'n Tîm

I siarad ag un o'n harbenigwyr heddiw, cysylltwch â ni ar 02920 829 100 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen Cysylltwch â Ni am sgwrs gychwynnol am ddim i weld sut gallwn ni helpu.

Catherine Burke
Partner
Gweld Proffil
Damian Phillips
Partner
Gweld Proffil
Fflur Jones
Partner Rheoli
Gweld Proffil
Gareth Wedge
Partner
Gweld Proffil
Mark Rostron
Partner
Gweld Proffil
Nick O'Sullivan
Partner
Gweld Proffil
Oliver Morris
Partner
Gweld Proffil
Owen John
Partner
Gweld Proffil
Patrick Murphy
Partner
Gweld Proffil
Rachel Ford-Evans
Partner
Gweld Proffil
Siobhan Williams
Partner
Gweld Proffil
Siôn Fôn
Partner
Gweld Proffil
Stephen Thompson
Partner
Gweld Proffil

Yr hyn y mae ein cleientiaid wedi'i ddweud...